Yr epilog.
Ffilm fer sy’n cyfuno deunydd o ran I a II wrth i ni ddilyn stori teulu cyffredin o Fangor.
Ond beth sy’n digwydd pan fydd siwrne seicedelig yn trawsnewid Hirael i mewn i fyd ffantasi Caer Arianrhod?
…………..
Chwedl gyfoes mewn tair rhan. O grombil y Mabinogi, dyma ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod.
Bydd trioleg OLION yn brofiad unigryw ar ffurf sioe theatr ar lwyfan, theatr awyr agored ar strydoedd Bangor, a ffilm fer.
Mae Olion yn gydweithrediad â Pontio, Bangor gyda chefnogaeth GISDA a Storiel.
…………..
Ffilm gan / A film by Dafydd Palfrey
Canllaw Oed 12+
Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys golygfeydd a all beri gofid i rai gwylwyr.
Bydd y ffilm ar gael i’w wylio fan hyn am 10yb 13/08/25.