Mae’n bleser cael croesawu Dan Lock, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Natur Cenedlaethol sydd newydd ei sefydlu. Bydd y gwasanaeth, sy’n deillio o’r Rhwydweithiau Gwyrdd ledled Cymru, yn canolbwyntio ar greu swyddi, gweithredu ar yr argyfwng natur a hinsawdd, a chreu ceidwaid ar gyfer byd natur ledled Cymru. Mae gweledigaeth Dan yn gosod y celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon y gwasanaeth cenedlaethol arloesol hwn.
Byddwn hefyd yn croesawu Anstacia Ackers o Outside Lives i rannu eu prosiect diweddaraf: Into the Woods. Mae Into the Woods (gyda chyllid Cyngor Celfyddydau Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru) yn rhaglen greadigol yn seiliedig ar natur sydd wedi’i chynllunio i annog cyswllt – gyda chi eich hun, gyda natur a gyda chymuned – drwy weithgareddau wedi’u teilwra, rhannu straeon, rhannu bara a chyfleoedd i wirfoddoli. Sefydliad nid er elw yw Outside Lives a sefydlwyd ar egwyddorion paramaethu ac sy’n canoli ei weithgareddau ar dri gwerth allweddol – Gofal am y Ddaear, Gofal am y Byd a Gofal am y Dyfodol.
Ac fe gawn ddiweddariad cryno gan Rebecca Hardy-Griffith o CCC am y pecyn cymorth natur ar gyfer cronfa Celfyddydau, Iechyd a Llesiant y Loteri.