Cartref digidol diwylliant Cymru.

Nia Morais yw’r Bardd Plant Cymru nesaf!

Llenyddiaeth

Bardd sy’n annog plant i “fentro a chwarae gyda’r iaith Gymraeg” ac sydd ag angerdd heintus at “hunaniaeth ac annog eraill i barchu eu hunan-ddelwedd” yw’r nesaf i ymgymryd â’r rôl arbennig hon.

Ar ddydd Iau 1 Mehefin ar lwyfan Yr Arddorfa ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r awdur a dramodydd, Nia Morais, fydd yn camu i esgidiau Bardd Plant Cymru o fis Medi eleni, gan gymryd yr awenau oddi-wrth y deiliad presennol, Casi Wyn.

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol sydd â’r bwriad o danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy farddoniaeth. Caiff y prosiect ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Sefydlwyd yn y flwyddyn 2000, ac ers hynny mae 17 bardd wedi ymgymryd â’r rôl. Caiff y rôl ei gwobrwyo pob dwy flynedd i fardd Cymraeg sydd yn angerddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Am Nia Morais

Awdur a dramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais. Mae’n ysgrifennu ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar hunan ddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith. Ar hyn o bryd, mae Nia’n Awdur Preswyl gyda Theatr y Sherman ac mae ei drama lawn cyntaf, Imrie, cyd-gynhyrchiad Cwmni Frân Wen a Theatr y Sherman, yn teithio Cymru dros haf 2023.

Fel Bardd Plant Cymru, prif amcan Nia yw sicrhau fod rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sydd yn hollbwysig iddyn nhw fel cenhedlaeth, ac sy’n brin mewn llenyddiaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Mae’n angerddol dros y ffaith fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, dros ddathlu ein hunaniaeth ac annog parch tuag at ein hunan-ddelwedd gan gynyddu hunan-hyder.

Dywedodd Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025: “Rydw i mor falch i fod yn Fardd Plant Cymru a ‘dw i methu aros i ddechrau! Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn i ddychwelyd i fyd barddoniaeth ar ôl tipyn o amser i ffwrdd, ac yn ddiolchgar iawn i allu rhannu fy amser gyda phobl ifanc Cymru.

Rydw i’n caru gweithio gyda phobl ifanc — mae’n foddhaol iawn a dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan weld be sy’n diddori nhw. Rwy’n caru sgwennu barddoniaeth ac yn gobeithio gallu creu gwaith gwych gyda phobl ifanc Cymru.”

Mae’r cyhoeddiad hwn yn benllanw proses recriwtio a gynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru. Gwahoddwyd beirdd i wneud cais am rôl Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales (chwaer-brosiect Bardd Plant yn y Saesneg), a cynhaliwyd cyfweliadau a gweithdai prawf gyda rhestr fer o ymgeiswyr. Aelodau’r panel i ddethol Bardd Plant Cymru 2023 – 2025 oedd Ciarán Eynon, Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2022, Dafydd Lennon, bardd a cyflwynydd Cyw, S4C, Bethan Mai Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru a dau gydlynydd creadigol o dîm Llenyddiaeth Cymru. Cynhaliwyd gweithdy fel rhan o’r broses gyda disgyblion Ysgol Ciliau Parc, Ciliau Aeron, gan sicrhau fod rhanddeiliaid mwyaf allweddol y prosiect, y plant eu hunain, yn cael rhannu eu barn fel rhan o’r broses.

Cyhoeddir y Children’s Laureate Wales newydd ar ddydd Gwener 2 Mehefin yng Ngŵyl y Gelli.

Dywedodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: “Mae cyflwyno plant a phobl ifanc i ddarllen ac ysgrifennu creadigol yn gynnar yn eu bywydau yn gallu plannu hedyn o gariad gydol-oes at lenyddiaeth. Mae’r prosiectau Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales yn cyflwyno pobl ifanc i awduron cyffrous, talentog ac ysbrydoledig. Mae gan Nia – a’r Children’s Laureate Wales yr ydym ar fin eu cyhoeddi – weledigaeth glir ar gyfer eu cyfnod, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld y llwybrau y byddant yn eu dilyn. Nid yn unig y byddant yn ffigyrau y bydd plant yn eu hedmygu, byddant hefyd yn cyflwyno cariad at eiriau, a dulliau o’u mwynhau a’u defnyddio i fynegi eu hunain yn greadigol yn rhoddion iddynt.”

Yn ôl Bethan Mai Jones, un o aelodau’r Panel Dethol: “Roedd hi’n bleser pur gweld Nia’n annog ac ysbrydoli’r plant mor llwyddiannus tra’n arwain y gweithdy. O’r cychwyn cyntaf, cafwyd syniadau ffres a bachog, creodd cryn dipyn o argraff gan sbarduno’r plant a’u hannog i fentro a chwarae gyda’r iaith Gymraeg. Mae ganddi weledigaeth gref ac mae ei hangerdd at hunaniaeth ac annog eraill i barchu eu hunan-ddelwedd yn heintus. O ganlyniad, gwelwyd ymateb brwd wrth i’r plant arbrofi a chyfansoddi pytiau bach ysgrifenedig, gan awchu i’w rhannu gyda gweddill y dosbarth. Rydym yn dymuno’r gorau iddi ac yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol agos.“

RHANNWCH