Ym mis Gorffennaf bydd dwy gân Gymraeg newydd yn cael eu rhyddhau gan yr
artistiaid addawol o Gymru, Adjua ac Aisha Kigs, ar label Sionci Tŷ Cerdd, sef
label dan arweiniad artistiaid.
Crëwyd y caneuon yn wreiddiol gan y ddau artist ar gyfer Eisteddfod
Genedlaethol 2023 fel rhan o fenter Tŷ Cerdd a’r Eisteddfod Genedlaethol,
gyda’r nod o gefnogi cerddorion lliw i greu caneuon newydd yn yr iaith Gymraeg.
Tyfodd y prosiect o ymrwymiad y ddau sefydliad i gefnogi crewyr cerddoriaeth o
bob cefndir i greu gwaith yn y Gymraeg.
Cafodd Adjua ac Aisha eu mentora drwy’r broses gan yr artistiaid blaenllaw
Eädyth ac Aleighcia Scott – a oedd hefyd wedi perfformio yng nghyngerdd clo’r
prosiect ar lwyfan Encore yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan. Gweithiodd
Eädyth gyda’r artistiaid (gan fod y ddwy ar ddechrau eu taith yn canu drwy
gyfrwng y Gymraeg) gan fynd ati i ddatblygu eu hyder wrth ysgrifennu a
pherfformio geiriau Cymraeg – gyda chefnogaeth Aleighcia Scott, a hithau yn
siaradwr Cymraeg newydd.
Dechreuodd y fenter yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen (o dan y teitl CoDi Cân
bryd hynny) pan gafodd pum artist lliw eu cefnogi i ysgrifennu caneuon Cymraeg
newydd, a chreu eu fideos cerddoriaeth eu hunain – a’r mentora wedi bod gan
Lily Beau, Tumi Williams a Jonny Reed.
Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu ar gyfer Eisteddfod 2024 – mae bellach o
dan ymbarél AffriCerdd. Eleni bydd Eädyth yn mentora’r artistiaid Asha Jane a
Frances Bolley i greu caneuon newydd, a byddant yn cael eu perfformio ar lwyfan
Encore am 1200 ddydd Iau 8 Awst – ochr yn ochr ag Adjua ac Aisha Kigs,
a fydd yn canu caneuon 2023 eto.
Bydd y ddwy sengl yn cael eu dosbarthu gan PYST, o dan berthynas newydd sy’n
pwysleisio ymrwymiad Tŷ Cerdd at Gymru a seilwaith cerddorol y genedl.
Wedi rhyddhau ar Recordiau Sionci ac ar
gael i’w ffrydio a’u lawrlwytho ar yr holl brif blatfformau:
Adjua – Hiraeth TCR046
(hyd: 03:09)
Aisha Kigs – Llygaid Cudd TCR047
(hyd: 04:01)