Cartref digidol diwylliant Cymru.

Neges Heddwch yr Urdd 2023

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023: Gwrth-hiliaeth

Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023 yr Urdd yn ffocysu ar wrth-hiliaeth. Mae’n datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld, rhaid Galw Nhw Allan.

Eleni crëwyd y neges gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda’r cerddor Eädyth a Swyddog Cynnwys Addysg S4C, Natalie Jones. Mae’n alwad gan ieuenctid Cymru i weithredu’n uniongyrchol i:

Datgymalu camwahaniaethu systemig
Herio rhagfarnau diarwybod
Galw allan hiliaeth pan welwn ni hi bob amser.

Ymunwch yn yr ymgyrch gan rannu’r neges ar eich cyfryngau cymdeithasol ar Ddydd Iau, y 18fed o Fai gan ddefnyddio #Heddwch2023

RHANNWCH