Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn dathlu ymgyrch arwrol Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24, ac yn datgan yr angen i barhau gyda’r alwad am heddwch can mlynedd yn ddiweddarach.
Ganrif yn ôl, ar yr 19eg o Chwefror 1924, agorwyd cist Deiseb Heddwch menywod Cymru gyda’i 390, 296 o lofnodion o flaen 600 o fenywod yr Unol Daleithiau yn y Baltimore Hotel, Efrog Newydd.
Roedd y ddeiseb yn apelio am weld cydweithredu dros heddwch yn y byd, ac mae ei stori wedi ysbrydoli’r Urdd i annog criw o ferched ifanc i ddod at ei gilydd i lunio’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni.
Mae’r neges yn datgan yr angen i weithredu ac i barhau i alw am Heddwch. Rhaid rhoi diwedd ar erchyllterau, rhyfeloedd a thrais, gan nodi’n glir y gall cydweithrediad, angerdd a gobaith ein harwain tuag at ddyfodol gwell.
Mwy o wybodaeth