Dychmygu, creu a byw yn fwy
Prosiect creadigol i ferched dros 18 oed i hyrwyddo llesiant yn y Gymraeg yn Porthi Dre, Caernarfon hefo Sioned Medi Evans a Iola Ynyr.
Ein bwriad yw:
Meithrin cyfleon i ddefnyddio ein creadigrwydd i ddychmygu gwell dyfodol i’n hunain, eraill a’r amgylchfyd heb ofn a hynny yn y Gymraeg
Casglu syniadau, trafod, ysgrifennu a chreu delweddau
Cynnig croeso i ddysgwyr Cymraeg
Darganfod y fersiwn fwyaf disglair ohonom ein hunain
Rhaglen drwy’r flwyddyn gyda’r cynnig i alw fel sy’n gyfleus
SESIYNAU AM DDIM A CHAWL AR GAEL
Mwy o wybodaeth – Nia Skyrme, Cynhyrchydd.
Ariannwyd y prosiect gan gronfa Llais y Lle, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Gwynedd.