Laura Moulding: Y Prosiect Cerddoriaeth Gynhwysol
Bydd Laura yn datblygu nifer fach o benodau ar gyfer cyfres podlediadau ar ei phrofiad fel cerddor Anabl yng Nghymru, gan arddangos ei cherddoriaeth, ei thaith, a sut y gall y diwydiant cerddoriaeth wneud yn well i bobl Anabl.
Blank Face: Cân Trawsgyweirio
Bydd Blank Face yn defnyddio ei brofiad o wynebu ableism mewn addysg a’i dalentau aruthrol mewn creu a meistroli cerddoriaeth i ysgrifennu trac sy’n cyfuno samplau o sylwadau ableist â seinwedd synhwyraidd i gyfleu ei bersbectif o fod yn berson Niwrogyfeiriol.
Ruth Potts: Prosiect Ysgrifennu Caneuon
Bydd Ruth yn defnyddio ei thalentau cerddorol cyflawn i recordio deunydd newydd sy’n defnyddio ei sgiliau ysgrifennu caneuon a ‘i sgiliau lleisiol ei hun i symud i gyfeiriad cerddorol gwahanol i’w gwreiddiau clasurol a cherddorfaol.
Rebecca Jollife: I’w gyhoeddi (Prosiect Fideo)
Bydd Rebecca yn creu ffilm fer gydag elfen seinwedd gref, gan bortreadu ei phrofiadau o ficro-ymosodiadau a barnau mewn gofodau abl.
Elin Angharad: Ow Ow Ow
Gan ddefnyddio Garageband, bydd Elin yn archwilio themâu o flinder a breuddwydion, afluniadau amser, a’r chwiliad am lawenydd Anabl.
Right Keys Only: I’w gyhoeddi (ysgrifennu caneuon / recordio)
Bydd Right Keys Only yn cyfuno ei sgiliau ysgrifennu caneuon a chreu cerddoriaeth gyda’i phrofiad o gael ei gwrthrycholi fel person anabl tocynnol mewn senario gweithle a chreu traciau nwyfus.