‘Allan i’r Glaw’ gan Izzy Rabey yn Chwant a olygwyd gan Marred Glynn Jones (Gwasg y Bwthyn)
Stori hanesyddol wedi’i lleoli yn yr Almaen ydy hon, a cheir ynddi ddarlunio bywydau merched hoyw mewn modd synhwyrus ac ysgubol. Yn wir, drwyddi draw, chwaraeir â ffin erotica, gan greu stori sy’n rhwydo’r darllenydd o’i dechrau i’w diwedd.
Caniadau Cranogwen gan Sarah Jane Rees (Cranogwen)
Mewn nifer o gerddi Cranogwen, darlunnir ‘cyfeillgarwch’ agos iawn rhwng merched, a hynny mewn modd teimladwy iawn. Teg fyddai dweud bod y cerddi hyn ymysg y llenyddiaeth Gymraeg gynharaf i ddarlunio perthnasau hoyw rhwng merched. Cyfrol bwysig ac un y dylid ei darllen yn eang.
Cerddi Prosser Rhys a olygwyd gan J. M. Edwards (Gwasg Gee)
Roedd E. Prosser Rhys yn fardd hynod bwysig yn ei oes, ac mae ei ddylanwad wedi para hyd heddiw. Yn y gyfrol Cerddi Prosser Rhys, gwelir pryddest fuddugol a dadleuol Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924, lle disgrifir chwantau rhywiol a lle darlunnir rhyw hoyw rhwng dau ddyn. Er mai’r bryddest ydy’r enghraifft amlycaf o thema hoyw yn y gyfrol, mae modd clywed isleisiau hoyw mewn ambell gerdd arall.
Eira Llwyd gan Gareth Evans-Jones (Gwasg y Bwthyn)
Disgrifiwyd Eira Llwyd fel nofel dawel, delynegol, ond un sydd yn cynnwys straeon heriol. Dilyn stori tri chymeriad yn ystod yr Holocost a wneir, ac mae un ohonynt, Shimon, yn ddyn hoyw sydd yn cuddio’i rywioldeb ac wedi cael ei erlid ar sail ei grefydd. Dyma ddarlunio’r syniad o fod yn guddiedig (closetted) i’r eithaf, a hynny yng nghyd-destun sgwennu synhwyrus.
Glitz, Glam a Brechdan Jam: Tips Bywyd Maggi Noggi gan Maggi Noggi (Gwasg Gomer)
Os ydych am gyfarwyddyd ar sut i fyw bywyd i’r eithaf, dylid troi’n ddi-ildio at feibl brenhines ddrag enwocaf Cymru, Maggi Noggi. O ba fwyd i’w fwyta i’r llefydd i’w hosgoi, mae yn y gyfrol yma lond berfa o ddoethinebau i fwynhau bywyd a dilyn esiampl ein hoff frenhines ddrag o Sir Fôn: Maggi, Mam Cymru!
Llwyth a Tylwyth gan Daf James (Y Lolfa)
Drama wreiddiol, ffres a beiddgar ydy Llwyth ac mae wedi dod yn glasur modern y theatr Gymraeg. Drwy ganolbwyntio ar griw o ffrindiau hoyw, darlunnir amryw themâu pwysig sy’n nodweddu’r Gymru gyfoes, megis hunaniaeth, rhywioldeb, traddodiad, perthynas, unigrwydd, unigedd a chenedlaetholdeb. Aethpwyd â’r ddrama ar sawl taith a derbyniodd gryn ymateb. Lluniwyd dilyniant iddi yn 2020, Tylwyth, sy’n trafod yr un cymeriadau ddeng mlynedd yn ddiweddarach, lle mae rhai wedi dod yn dadau ac eraill yn annibynnol o hyd. Bydd Tylwyth yn mynd ar daith yn hydref 2022.
Pan Oeddwn Fachgen gan Mihangel Morgan (Y Lolfa)
Mae Pan Oeddwn Fachgen yn nodweddiadol o ysgrifennu Mihangel Morgan – mae’n drylwyr, yn drawiadol, ac, ar brydiau, yn styrbiol. Ceir yma archwilio seicoleg cymeriadau penodol ac asesu eu gweithgarwch â’i gilydd. Mae wedi ysgrifennu yn yr ail berson unigol sy’n cyfleu agosatrwydd y nofel – agosatrwydd twyllodrus erbyn y diwedd! Archwilir sawl thema drwy gydol y gwaith, yn enwedig rhywioldeb, hunaniaeth, perthyn a dosbarth.
Pridd gan Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)
Mae Pridd yn enghraifft o ysgrifennu synhwyrus lle clywir arogl y gwair o’r naill dudalen i’r llall. Mae yma ddweud cofiadwy ac effeithiol iawn, sy’n cyffwrdd y darllenydd un funud, ac yna’n ei ysgwyd yn ddidrugaredd. Cyfeiriadaeth gynnil at themâu LHDTC+ a geir, ond mae’n gymaint cryfach o’r herwydd.
Robyn gan Iestyn Tyne a Leo Drayton (Y Lolfa)
Nofel yng nghyfres Y Pump a olygwyd gan Elgan Rhys ydy Robyn, sy’n dilyn stori cymeriad traws yng Nghymru heddiw. Mae’r nofel yn gyfoes ac yn gywrain, yn ddarn o lenyddiaeth LHDTC+ Gymraeg bwysig. Mae’r ffaith iddi gael ei llunio ar y cyd rhwng dau awdur, un ohonyn nhw yn berson traws, yn cyfrannu’n arw at ei gwerth.
tu ôl i’r awyr gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
Dyma nofel arloesol yng ngwir ystyr y gair. O’r orgraff arbrofol i’w chymeriadau crynion, mae nofel gyntaf Megan Angharad Hunter yn un sy’n cydio yn y dychymyg a’r galon wrth ddarllen, ac ymhell wedi ichi orffen. Un o gryfderau niferus y nofel ydy’r ffaith ei bod yn trafod rhywioldeb fel rhywbeth cwbl naturiol a di-ffws. Heb os, roedd yn llwyr deilwng o wobr Llyfr y Flwyddyn 2021.
Mae Llyfrau Lliwgar yn glwb llyfrau cynhwysol sy’n canolbwyntio ar lenyddiaeth LHDTC+ yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Mae’n cyfarfod unwaith y mis yng nghanolfan Pontio, Bangor, ac mae croeso gwastadol i aelodau newydd.
Dilynwch Llyfrau Lliwgar ar y Twitter, @YLlyfrauLliwgar ac Instagram, @llyfraulliwgar