MIC a PYST yn lansio cylchdaith gigs newydd!

Cerddoriaeth

Mae Mentrau Iaith Cymru a PYST wedi cyhoeddi eu bod am gydweithio i lansio a datblygu cylchdaith gigs newydd ar gyfer artistiaid Cymraeg. Bydd y daith gyntaf yn digwydd yn y Gwanwyn.

Nôd y gylchdaith yw cynnig cyfleon i artistiaid deithio Cymru gyda’r pwyslais ar ymweld â mannau lle nad ydynt yn chwarae yn aml, os o gwbwl. Bydd y gylchdaith hefyd yn gyfle i ddod â cherddoriaeth fyw Gymraeg yn ôl i ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu o hynny dros y blynyddoedd diweddar. Y gobaith hefyd yw y bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn ymgysylltiad pobl â diwylliant Cymraeg a rhoi cyfle o’r newydd iddynt fwynhau hynny yn eu hardaloedd.

Cefnogir y gylchdaith hefyd gan gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n helpu cannoedd o neuaddau pentref a grwpiau cymunedol ledled Cymru i archebu sioeau proffesiynol.

Y bwriad yw y bydd o leiaf 4 taith y flwyddyn yn digwydd gyda chanolfannau ac ardaloedd yn amrywio o daith i daith. Bydd PYST yn gyfrifol am hyrwyddo cenedlaethol a chydlynu tra bydd y Mentrau Iaith yn gyfrifol am hyrwyddo lleol a chynnal y gigs. Mae’n bartneriaeth sydd yn manteisio ar gryfderau ac adnoddau y ddau sefydliad.

Dywedodd Heledd ap Gwynfor ar ran MIC “Mae’r Mentrau Iaith yn gyfarwydd â threfnu cyngherddau a gigs amrywiol ym mhob rhan o Gymru, ond wedi gweld y cyfnod diweddar yn un heriol iawn am resymau amlwg. Mae gallu cydweithio rhwng y Mentrau a gyda PYST yn golygu gallu cynnig cyfleon cyffrous i gynulleidfaoedd Cymru unwaith yn rhagor iddynt fwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar ei orau.”

Dywedodd Alun Llwyd ar ran PYST “Mae’r gylchdaith yma yn rywbeth y mae mawr ei angen ac yn cynnig nid yn unig adnodd gwerthfawr i artistiaid a labeli wrth hyrwyddo recordiau ond yn gam pwysig i sicrhau bod cerddoriaeth a’r iaith Gymraeg yn cael ei fwynhau yn gyson gan gynulleidfa ehangach a hynny o fewn eu hardal leol. Edrychwn ymlaen i weld y gylchdaith yn datblygu.”

Yn lansio y gylchdaith bydd y band o Gaerdydd HMS Morris gyda chefnogaeth gan Hyll, Mali Hâf, Elis Derby a Bitw ar wahanol rannau o’r daith.

RHANNWCH