Merched yn Gwneud Miwsig: Y Podcast
Yn podcast newydd Merched yn Gwneud Miwsig, bydd Elan Evans yn holi menywod blaenllaw y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, yn trafod eu profiadau gyntaf yn y sîn, eu datblygiad, a lle mae’n nhw nawr. Gyda pennod newydd pob Dydd Llun a Dydd Mercher am 11 y bore.
Instagram: @merchedmiwsig
Twitter: @maesbmaesb
Facebook: @maesbmaesb
TikTok: @maesbmaesb
Pennod 5 -Ani Glass
Pennod arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru! Yn y bennod yma, mae Elan Evans yn sgwrsio gydag Ani Glass (sef Ani Saunders) am dyfu fyny yng Nghaerdydd, symud i Lerpwl a Llundain, cyn dychwelyd i Gaerdydd. Mae’r cynhyrchydd ac artist pop electronig godidog yn sôn am sgwennu ei halbwm debut ‘Mirores’, ag enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac am ei datblygiad cerddorol o’r EP gyntaf ‘Ffrwydrad Tawel’.
Pennod 4 – Bethan ac Angharad o Calan
Ym mhennod olaf cyfres gyntaf Merched yn Gwneud Miwsig: Y Podcast, bu Elan Evans yn sgwrsio gyda Bethan ac Angharad o’r band gwerin Calan. Yn y rhagolwg yma, mae Beth yn sôn am y trip a ddechreuodd y band pan oedd hi ond yn 14 oed, a sut mae ei chariad at werin wedi datblygu ers.
Pennod 3 – Hana Lili
Yn y rhagolwg yma o 3ydd pennod podcast Merched yn Gwneud Miwsig, bu Hana Lili yn trafod ei datblygiad o ‘Hana2k’ i Hana Lili, a sut mae’r newid wedi ail-frandio ei delwedd a’i miwsig i fod yn fwy onest i’w hun.
Pennod 2 – Kizzy Crawford
Ym mhennod yma o podcast Merched yn Gwneud Miwsig, mae’r artist Kizzy Crawford yn sôn am sut wnaeth hi dyfu fyny gyda fiwsig jazz yn chwarae o gwmpas ei thŷ, cyn ddarganfod ei dylanwadau personol. Bu’n trafod y cyfleoedd i berfformio yn yr Eisteddfod a wnaeth annog ei eisiau i berfformio ar lwyfan, ei hamser gyda phrosiect Gorwelion (Horizons), a’i phrofiad o weithio gydag Amy Wadge pan oedd hi’n 16 oed.
Pennod 1 – Y Gwefrau
30 mlynedd ers i’r Gwefrau ffrwydro ar sin gerddoriaeth Gymraeg Caerdydd, mae Beca a Gwenllian yn sgwrsio gydag Elan Evans am eu hamser byr yn un o bands fwyaf cŵl y 90au. Bu’r ddwy yn edrych nôl ar eu hatgofion niwlog o’r amser cyn ffonau symudol, o fod yn ffrindiau gorau yn Ysgol Glantaf, i ffurfio band a chwarae eu gigs cyntaf yn Clwb Ifor Bach, lle ffrwydrodd y sin roc Gymraeg.