Merched yn Gwneud Miwsig – Branwen Williams

Cerddoriaeth

Yn bennod olaf yr ail gyfres o’r podcast, bu Elan Evans yn sgwrsio gyda’r artist a sylfaenydd label I KA CHING – Branwen Williams. O dyfu fyny yn Llanuwchllyn a phrofi’r creadigrwydd o’i chwmpas hi, i ddilyn ei thad a mam o gwmpas theatrau Cymru a dysgu oddi wrth fenywod eraill Cwmni Maldwyn. Dechreuodd ei band gyntaf yn yr ysgol ac erbyn nawr, mae hi’n rhan o 3 band sefydledig – Cowbois Rhos Botwnnog, Siddi a Blodau Papur, ac yn rhedeg y label annibynnol ‘I KA CHING’ sydd wrthi’n anelu at wella cynrychiolaeth menywod sy’n rhyddhau cerddoriaeth yng Nghymru.

 

RHANNWCH