Mae gan gylchgrawn Cara fenter newydd eleni, sef Clwb Llyfrau Cara.
Rydyn ni fel golygyddion wrth ein boddau’n darllen, ac mae llyfr (neu ddau, neu dri) ar y gweill gyda ni o hyd. Gyda chymaint o lyfrau gwych yn cael eu cyhoeddi, yn Gymraeg a Saesneg, beth am eu trafod nhw gyda’n gilydd? Mae’n siŵr bod gan nifer ohonom fwy o amser i ddarllen ar hyn o bryd, gyda chysgod y feirws drosom o hyd.
Y llyfr cyntaf i ni ei drafod ym mis Ionawr oedd y nofel mae pawb yn siarad amdani, sef tu ôl i’r awyr gan Megan Angharad Hunter. Cawsom drafodaethau difyr iawn ar-lein am y syniad o labelu llyfrau fel ‘llyfrau oedolion ifanc’ neu ‘lyfrau oedolion’, a diddorol oedd gweld bod gwahanol ddarllenwyr wedi gweld lleoliadau gwahanol yn eu meddwl wrth ddarllen y nofel.
Yr ail lyfr, ym mis Chwefror, oedd Eiliad ac Einioes, cyfrol o gerddi tyner a theimladwy gan Casia Wiliam. A llyfr mis Mawrth yw Dignity, gan y nofelydd o Fangor, Alys Conran, nofel ddirdynnol sy’n adrodd hanes tair menyw o genedlaethau gwahanol, Magda, Susheela ac Evelyn, gan fynd â ni o dref glan môr yn Lloegr i India ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’n nofel sensitif sy’n ymdrin â mynd yn hŷn, mamolaeth, ystyr ‘cartref’ a cholled.
Felly ymunwch â ni i rannu barn am ein dewisiadau darllen ninnau, i rannu’r llyfrau rydych chi’n eu darllen ac i gael argymhellion gan ddarllenwyr eraill.
Yn rhifyn gwanwyn Cara, sy’n cael ei gyhoeddi ymhen pythefnos, cawn glywed am her ddarllen arbennig Cymraes yn Awstralia, Sophie Baggott, sydd wedi darllen llyfr gan fenyw o bob gwlad yn y byd!
Instagram @clwbllyfraucara
Grŵp preifat ar Facebook – chwiliwch am ‘Clwb Llyfrau Cara’.
Bydd rhifyn gwanwyn cylchgrawn Cara yn cael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth.
I danysgrifio ewch i’n gwefan