Cartref digidol diwylliant Cymru.

Meet our 10 Future Disrupters!!

Cymuned

Beth yw Future Disrupter?

Mae Future Disrupter yn rhaglen ddatblygu newydd sy’n llawn dop sgiliau trosglwyddadwy ac arweiniad i helpu unrhyw berson ifanc sy’n dymuno fod yn rheolwr prosiect. Bydd rhaglen Future Disrupter yn helpu chi datblygu sgiliau allweddol ar gyfer dyfodol eich gyrfa, gan gynnwys gwahoddiad i rwydwaith diwydiant newydd efo cyngor proffesiynol bydd yn eich helpu ar gyfer y camau nesaf.


Cwrdd â’n 10 Future Disrupters!! 
Mae hyn yn bosibl diolch i’n cyllidwyr Cymru Greadigol

M. Yesekaon –

Mae’r artist a’r cynhyrchydd M. Yesekaon yn frwd dros ysgogi’r sîn gerddoriaeth yng Ngogledd Cymru ac arddangos cerddoriaeth o darddiad du (MOBO) o amgylch ei dref enedigol arfordirol yng Nghonwy. Gyda hanner can mlwyddiant diweddar Hip-Hop mewn golwg, mae Calum yn dyheu am gerflunio hirhoedledd a gofod i’r genre a’i hartistiaid trwy guradu prosiectau a digwyddiadau byw gyda chefnogaeth Future Disrupter.

Gem Griffiths –

Dewch i gwrdd â Gem, cerddor o Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru a pherchennog y label recordio Winger Records. Mae Gem yn ymroddedig i gryfhau’r sin gerddoriaeth Gymraeg yn ei dref enedigol ac yn Ne Cymru, gyda’r weledigaeth i adeiladu proffil artistiaid trwy gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynnal digwyddiadau gyda chefnogaeth Future Disrupter.

Guy Nicholas Challenger –

Nid yn unig Guy yw sylfaenydd label Sgeti Records, ond mae hefyd yn gerddor a darlunydd gyda llygad craff am ansawdd. Mae Guy wedi sefydlu ei hun yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer artistiaid ac yn cefnogi eu rhyddhau, ac mae’n dyheu i gryfhau ei rôl yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg trwy reoli prosiectau ar gyfer artistiaid Cymreig gyda chefnogaeth Future Disrupter.

Sophie Perkins –

Dewch i gwrdd â Sophie, cyd-berchennog y brand ffasiwn cynaliadwy Sage Against the Machine ac artist gweledol o Gaerdydd. Mae cynaladwyedd a chymuned yn rhan annatod o’r llu o brosiectau y mae Sophie yn dymuno eu rhoi ar waith. Gyda chefnogaeth Future Disrupter, rheoli prosiect gŵyl a chyfres ddigidol sy’n arddangos artistiaid Cymreig ochr yn ochr â’i busnes sydd nesaf ar ei rhestr.

Harvey Evans –

Mae Canwr Opera, Cyfarwyddwr a Rheolwr Llwyfan o Gasnewydd, Harvey Evans, yn ymgymryd â byd cerddoriaeth Opera gyda chefnogaeth Future Disrupter. Nid yn unig y mae am reoli ei fusnes newydd ei hun o fewn y celfyddydau, ond mae hefyd yn dymuno cychwyn ar ariannu ymchwil a datblygu a chreu prosiect Opera modern sy’n adlewyrchu’r gymuned leol.


Josh David-Read –

Dewch i gwrdd â Josh, trefnydd gŵyl o Abertawe, cydlynydd prosiect a cherddor sy’n perfformio o dan yr enw ‘Mojo JNR’. Mae adeiladu ar gymuned gerddorol leol ac ehangach yn ganolog i’w holl ymdrechion. Gyda chefnogaeth Future Disrupter, mae Josh yn dyheu am greu gyrfa lawn amser yn y diwydiant celfyddydol, gan reoli digwyddiadau a dechrau label annibynnol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gerddoriaeth fyw ac artistiaid yng Nghymru.


Niamh Bailey –

Mae Niamh yn MC, Lleisydd, DJ, Aml-offerynnwr a chyfansoddwr caneuon o Gaerdydd. Yn 18 oed, mae’n ceisio bod yn greadigol llawn amser ac adeiladu ar y diwydiant cerddoriaeth mewn ffordd foesegol, hygyrch a theg. Gyda chefnogaeth Future Disrupter, mae Niamh yn anelu at greu cysylltiadau a chyfleoedd i gynulleidfaoedd ifanc, i ddechrau cwmni digwyddiadau, prosiect a label yn y dyfodol.

Teresa Delfino –

Newyddiadurwraig wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yw Teresa, sy’n dyheu am leisio profiadau a gofynion y gymuned gerddoriaeth gyda chreu cyhoeddiad “Cult Classic”. Gyda chefnogaeth Future Disrupter, mae hi eisiau creu canolbwynt sy’n rheoleiddio, dathlu a hyrwyddo cerddoriaeth a chelfyddydau yng Nghymru sy’n gwrthsefyll prawf amser.

Zuzana Kalinova – 

Dewch i gwrdd â Zuzana, cydlynydd stiwdio radio o’r Weriniaeth Tsiec sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Gyda chefnogaeth Future Disrupter, mae Zuzana yn dyheu am gychwyn prosiect elusennol gyda dwy ganolfan yng Nghymru ac un yn Tsieceg. Mae darparu mynediad i gyfleoedd a meithrin perthnasoedd rhwng cerddorion ifanc yn rhyngwladol, wrth galon ymdrechion Zuzana ar ei thaith i fod yn greadigol amser llawn.

Ellie Zalar –

Mae Ellie yn artist gweledol sydd wedi’i lleoli yn Rhondda Cynon Taf, ac mae ei brwdfrydedd i weithio yn y diwydiant celfyddydol yn cael ei danio gan gefnogi’r dosbarth gweithiol. Gyda chefnogaeth Future Disrupter, mae Ellie yn dyheu am reoli prosiectau a chynnal digwyddiadau sy’n rhoi mynediad i ac yn arddangos artistiaid ymylol, ar ôl cynnal ei digwyddiad cyntaf o dan yr enw Artistic Alliance Cymru.

RHANNWCH