Bydd premiere digidol ecsgliwsif Marshall Art ar Am ddydd Gwener, Rhagfyr 19.
Mae stori bersonol a thrawiadol ynglŷn â throi poen yn nerth ar fin cyrraedd y sgrin. Mae Ceirion Marshall, sy’n dod o ardal Maesincla, Caernarfon, yn agor i fyny am y blynyddoedd caled o gael ei fwlio yn ddi-stop. Mae’r rhaglen ddogfen newydd gan Stiwdio Malwan yn croniclo ei daith emosiynol o gyrraedd y wal i ddod o hyd i’w hyder, gan ddechrau gyda Karate yn Burman’s Martial Arts (BMA), yna Kickboxing yn MPMA (Marvin Pritchard Martial Arts) ac ymlaen i ddilyn ei ffreuddwyd o bod yn ymladdwr MMA proffesiynnol. Mae’r ffilm yn tynnu sylw at ei natur ofalgar a sensitif, sy’n aros yr un fath er gwaethaf yr holl frwydro.
Dywedodd Dïon Wyn, y gwneuthurwr ffilmiau a sylfaenydd Stiwdio Malwan: “Ein prif fwriad wrth wneud y ffilm hon oedd cynnig glasbrint i blant sy’n dioddef o fwlio. Drwy weld taith Ceirion, gallent wybod bod llwybr ymlaen. Mae’r ffilm yn dangos na allai wneud hyn heb gariad a pharch a gafodd yn BMA a MPMA.”
Yn ogystal â chlywed gan Ceirion ei hyn drwy’r ffilm, rydym hefyd yn clywed gan ei fam, Kelly Ann Marshall, am yr amseroedd cynnar anodd; Sara Salisbury Roberts (BMA) yn egluro ei ddyddiau cynnar drwy dysgu Karate; a Marvin Pritchard (MPMA) yn trafod ei ddyfodol.
Sefydlwyd Stiwdio Malwan gan Dïon Wyn, gwneuthurwr ffilmiau a enillodd wobr RTS yn 2022 am y ffilm fer, ‘Y Lein: Streic Friction Dynamics’. Roedd y ffilm hon yn son am anghyfiawnder hanesyddol y streic yn erbyn Friction Dynamics (Ferodo) yn Ardal Caernarfon yn 2001. Gwnaed y ffilm hon yn ddiweddarach yn raglen ddogfen lawn a ddarlledwyd ar S4C yn 2024 ar y cyd gyda Cwmni Da. Yn dilyn y llwyddiant hwn, enwebwyd Dïon Wyn am wobr Seren y Dyfodol gan yr RTS yn 2024..