O ddydd Gwener, Rhagfyr 19 ymlaen, mae ffilm ddogfen newydd gan Stiwdio Malwan yn cael ei ddarlledu ar-lein am y tro cyntaf mewn partneriaeth ddigidol gydag Am.
Mae ‘Marshall Art’ yn adrodd stori bersonol a thrawiadol Ceirion Marshall, o ardal Maesincla, Caernarfon, am y blynyddoedd caled o gael ei fwlio yn ddi-stop. Mae’r ffilm yn croniclo ei daith emosiynol o gyrraedd y wal i ddod o hyd i’w hyder, gan ddechrau gyda Karate yn Burman’s Martial Arts (BMA), yna Kickboxing yn MPMA (Marvin Pritchard Martial Arts) ac ymlaen i ddilyn ei freuddwyd o bod yn ymladdwr MMA proffesiynnol. Mae’r ffilm yn tynnu sylw at ei natur ofalgar a sensitif, sy’n aros yr un fath er gwaethaf yr holl frwydro.
Dywedodd Dïon Wyn, y gwneuthurwr ffilmiau a sylfaenydd Stiwdio Malwan: “Ein prif fwriad wrth wneud y ffilm hon oedd cynnig glasbrint i blant sy’n dioddef o fwlio. Drwy weld taith Ceirion, gallent wybod bod llwybr ymlaen. Mae’r ffilm yn dangos na allai wneud hyn heb gariad a pharch a gafodd yn BMA a MPMA.”
Yn ogystal â chlywed gan Ceirion ei hyn drwy’r ffilm, rydym hefyd yn clywed gan ei fam, Kelly Ann Marshall, am yr amseroedd cynnar anodd; Sara Salisbury Roberts (BMA) yn egluro ei ddyddiau cynnar drwy ddysgu Karate; a Marvin Pritchard (MPMA) yn trafod ei ddyfodol.
Sefydlwyd Stiwdio Malwan gan Dïon Wyn, gwneuthurwr ffilmiau a enillodd wobr RTS yn 2022 am y ffilm fer, ‘Y Lein: Streic Friction Dynamics’, am anghyfiawnder hanesyddol y streic yn erbyn Friction Dynamics (Ferodo) yn Ardal Caernarfon yn 2001. Yn dilyn y llwyddiant hwn, enwebwyd Dïon Wyn am wobr Seren y Dyfodol gan yr RTS yn 2024.