Cartref digidol diwylliant Cymru.

Mari Lovgreen- Bydda Ffeind

Llenyddiaeth

Bydda’n Ffeind

Dwi am ddechrau drwy rannu fy statws Facebook sy’n dyddio nôl i fis Chwefror ‘leni:

Dwi wedi bod yn meddwl lot mwy am y peth ers hynny. Sut allwn ni fod yn ffrindia gwell i’n gilydd? Sut fedran ni stopio’r bobl dan ni’n ei garu i ffeindio’i hunain mewn lle mor afiach, nes eu bod nhw’n teimlo fod yna ddim ffordd allan. Mae ’na lot yn beio’r cyfryngau am be ddigwyddodd i Caroline Flack, ac er bod ’na elfen gref o wirionedd yn hynny, oes yna fwy o’i le ar y byd dan ni’n byw ynddo fo na hynny?

Fedra i ddim helpu teimlo bod technoleg lot i wneud efo hyn eto. Y negeseuon Whatsapp, a’r emojis calon – dyma sut dan ni’n cyfathrebu erbyn hyn sy’n ei gwneud hi’n lot anoddach i weld os oes gyda ni ffrind sy wir yn sdryglo. Dan ni’n mynd yn fwy a mwy awkward wrth gael sgyrsiau sensitif, anodd, gan fod neges llawn emojis yn gwneud y job yn gymaint haws. Rydan ni’n llongyfarch, yn cydymdeimlo, yn gyrru cariad – ond yn amlach na pheidio, drwy sgrîn. Dyma un o’r pethau olaf i Caroline Flack rannu ar ei ffrwd Instagram:

I wanted to write something about mental health day last week but I was knee deep in work. And some days it’s hard to write your feelings of your not in the right place. The last few weeks I’ve been in a really weird place… I find it hard to talk about it.. I guess it’s anxiety and pressure of life… and when I actually reached out to someone they said I was draining. I feel like this is why some people keep their emotions to themselves. I certainly hate talking about my feelings. And being a burden is my biggest fear… I’m lucky to be able to pick myself up when things feel shit. But what happens if someone can’t. Be nice to people. You never know what’s going on. Ever,

Dwi’n meddwl bydd lot ohonom ni’n gallu uniaethu efo hyn. Prin ydi’r cyfleoedd i gael sgyrsiau go iawn am deimladau. Does yna neb eisio teimlo fel eu bod nhw’n ‘gwneud ffys’, yn ‘ddramatic’ neu’n ‘fwrn’. Be sy’n fy nychryn i ydi unwaith mae rhywun wirioneddol yn isel, mae’n dod yn anoddach cyfathrebu. Mae pobl hefyd mor dda am guddio sut maen nhw’n teimlo – ac mai’n haws nac erioed i guddio tu ôl i filters a GIFs. Ddylai neb deimlo’n fwrn am estyn allan am help. Yndi, mae bywydau pawb yn hectic, ond byth rhy hectic i helpu ffrind mewn angen.

Wnes i ddechrau meddwl bod angen i fi ffonio a gweld fy ffrindiau’n amlach, ond fedrwn ni ddim poeni am bawb arall o hyd – mae hynny’n hollol anymarferol ac overwhelming. Be dwi’n meddwl y gallwn ni gyd wneud ydi gneud yn siŵr ein bod ni’n edrych ar ôl ein hunan yn iawn. Peidio anwybyddu symptomau sydd ynghlwm ag iechyd meddwl – o fethu cysgu i deimlo’n ddi-egni, i symptomau mwy difrifol fel anxiety neu iselder. Mae angen trin y symptomau yma yn union yr un fath ac unrhyw anhwylder corfforol arall fysa’n gneud i chi weld doctor/arbenigwr neu dreulio ddiwrnod yn eich gwely yn gorffwys. Mae hi hefyd yn bwysig gofyn y cwestiwn – pam eich bod chi’n teimlo fel hyn yn y lle cyntaf? Mae’r corff yn glyfar ac yn rhoi arwyddion os nad ydan ni’n edrych ar ôl ein hunain yn iawn. Mae’r holl bethau boring yn helpu i gadw corff a meddwl iach. Dwi’n caru’r dyfyniad yma gan Jim Carey:

“I believe depression is legitimate. But I also believe that if you don’t exercise, eat nutritious foods, get sunlight, get enough sleep, consume positive material [and] surround yourself with support, then you aren’t giving yourself a fighting chance.”

Dwi’n pregethu wrth fy ffrindiau o hyd am y busnes self care yma, ond mae o mor bwysig! Gwnewch amser i wneud be bynnag sydd angen ei wneud i fwydo’ch enaid – ac ma hynny’n wahanol iawn o berson i berson. You do you. Heb deimlo’n euog, nac yn hunanol. Os wnewch chi gadw’ch hun yn hapus, fydd pob perthynas yn eich bywyd yn elwa.

Er mor bwysig ydi edrych ar ôl no 1, dan ni gyd angen ffrind hefyd, neu rywun i rannu gofidiau â nhw. Mae rhannu problem wir yn helpu – a dydach chi ddim angen llwyth o ffrindiau – mae un y gallwch eu trystio i wrando heb farnu yn hen ddigon. Rhannwch efo nhw. Yn onest. Gewch chi weld fod be bynnag dach chi’n ei deimlo ddim mor ddrwg â hynny. A dydach chi ddim yn fwrn!! Mae pobl sy’n eich caru chi eisio’ch helpu chi. Yn union fel fysech chi eisiau eu helpu nhw.

I orffen dyma grynodeb o sut dan ni am newid y byd un cam bach ar y tro:

Edrych ar ôl ein hunain
Pwyso ar deulu/ffrindiau pan fo angen heb deimlo fel ein bod ni’n fwrn
Wastad bod yn barod i wrando ar ffrind sy’n sdryglo
Bod yn ffeind

Dyna ni! DO IT.
Mari
x

RHANNWCH