Marged Tudur
Mae Marged Tudur yn fardd, yn awdur ac yn olygydd o Forfa Nefyn; mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol, a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Roedd hi’n un o olygyddion y gyfrol Rhywbeth i’w Ddweud (Cyhoeddiadau Barddas, 2017), sy’n gyfrol amlgyfrannog yn trafod caneuon gwleidyddol. Yn 2020 cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Mynd (Gwasg Carreg Gwalch), sy’n trafod y profiad o golli ei brawd. Enillodd y gyfrol wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 yn y categori Barddoniaeth ac fe’i dewiswyd i’n Silff Lyfrau 2021.

Aled Rhys Jones
Mae Aled Rhys Jones yn gwneud gwaith camera ac yn gyfarwyddwr.
Preswyliad Celfyddydau Gweledol 30 Awst – 13 Medi 2025
Gyda’i gilydd maent am gyfuno geiriau a’r gweledol i greu ffilm fer. Tra bo Marged yn sgwennu ac yn cerdded, roedd Aled wrthi’n ffilmio ac yn recordio synau – uwch y tonnau, hyd erchwyn y creigiau, ar y mynydd, rhwng dau gae, ger y goleudy, yn y tai, yn yr ysgol, yn olion yr abaty a hynny mewn haul, glaw, gwynt ac yn oriau mân y bore. O ffilmio ‘time-lapses’ i ffilmio mewn ‘slow motion’, bu’n ceisio dogfennu y tirlun a mynd a dod prysur y bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys.