Cartref digidol diwylliant Cymru.

Margaret Wyn o Feifod

No Categories Found

Roedd Margaret Wyn yn fenyw a gafodd ei chyhuddo o ddefnyddio dewiniaeth i orfodi menyw arall o’r enw Margaret Lloyd i garu dyn o’r enw John ap Gruffydd.

Yn ôl y cyhuddiadau, yn mis Medi 1578, cwrddodd merch o’r enw Margaret Lloyd â gŵr bonheddig o’r enw John ap Gruffydd, o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, yn marchnad Llanfyllin. Aeth Margaret Lloyd â John ap Gruffydd i dafarn, lle cwrddodd y ddau â menyw hŷn o’r enw Margaret Wyn. Ceisiodd Margaret Wyn berswadio Margaret Lloyd i fynd i ffwrdd â John ap Gruffydd, ond gwrthododd Margaret Lloyd.

Rai wythnosau yn ddiweddarach, ceisiodd Margaret Wyn wahodd Margaret Lloyd draw i’w thŷ, gan fod John ap Gruffydd am siarad â hi. Gwrthododd Margaret Lloyd, felly anfonodd Margaret Wyn Lowri, ei merch a oedd yn ffrindiau gyda Margaret Lloyd, draw i’w pherswadio. Unwaith iddi gyrraedd y tŷ, ceisiodd Margaret Wyn ei pherswadio eto i redeg i ffwrdd â John ap Gruffydd, ond gwrthod eto wnaeth Margaret Lloyd.

Rhoddodd Margaret Wyn afal iddi, a wedi i Margaret Lloyd ddechrau bwyta’r afal, dechreuodd deimlo’n benysgafn, a dechreuodd gael dannodd ar ochr dde ei cheg. Cwynodd ei bod yn teimlo’n sâl. Rhoddodd Margaret Wyn bowdr iddi er mwyn ei gwella. Cymerodd Margaret Lloyd y powdr, er ei fod yn blasu’n chwerw, a theimlodd ei llwnc yn boeth wedi iddi ei lyncu. Aeth Margaret Lloyd yn chwys drosti, a theimlai fel bod rhywun wedi ei tharo. Cynigodd John ap Gruffydd fynd â hi i dŷ dyn o’r enw Dafydd ap William Vaughan ym Mhenybont ger Llangollen.

Ar y ffordd, cwrddodd y ddau â llawer o bobl oedd yn poeni am Margaret, gan fod John ap Gruffydd yn gymeriad amheus, ac yn ŵr priod a chanddo blant. Talodd John arian i bobl i beidio a dweud eu bod nhw wedi ei weld gyda Margaret.

Arhosodd y ddau yn nhŷ Dafydd ap William o ddydd Iau hyd at fore Llun, er bod perchennog y lle i ffwrdd, ac nad oedd wedi rhoi caniatâd iddynt aros yno.

Yn ôl yr achos llys, dywedodd Margaret Lloyd , ers iddi gymryd y powdr a’r afal bod sawl un o’i dannedd wedi cwympo allan, a’i bod wedi dechrau teimlo ei hun yn gwallgofi pan fyddai’r lleuad yn newid. Roedd Margaret Lloyd yn argyhoeddedig ei bod wedi cael ei rheibio i garu John ap Gruffydd drwy fwyta’r afal a’r powdr.

Gwadodd Margaret Wyn ei bod wedi defnyddio gwrachyddiaeth a rheibio Margaret Lloyd.

Dywedodd Margaret Wyn mai alwm llosg oedd y powdr a’i bod wedi dysgu gan feddyg o’r enw William Gilbert sut gallai powdr alwm llosg wella dannodd. Roedd hi wedi ei roi i sawl person oedd â dannodd yn y gorffennol.

Methwyd ei chosbi am reibio, ond mae’n debygol ei bod wedi cael ei chosbi am beth ddigwyddodd i Margaret Lloyd.

Darllen Pellach:

Mae’r erthygl hwn yn ddyledus iawn i Gwrachod Cymru – Eirlys Gruffydd (p.32-4)

E. Lois yw arlunydd Prosiect Drudwen, Rhithganfyddiad a phrosiect #GwrachodCymru, ymhlith pethau eraill. Mae hi ar Instagram fel @efalois a Twitter fel @efalois.

RHANNWCH