Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llyfrau’r Gwanwyn

Llenyddiaeth

Gyda’r gwanwyn wedi cyrraedd mae ‘na wledd o lyfrau plant newydd ar gael o’ch siop lyfrau leol.

Pawb a Phopeth: Llyfr Mawr Geiriau / Welsh All Around – Elin Meek a Valériane Leblond

Yn weledol drawiadol gyda dyluniad bras, mae’r llyfr clawr caled hwn yn cyflwyno geiriau Cymraeg gydag arlunwaith hyfryd gan Valériane Leblond. Cychwynnir gyda’r wyddor Gymraeg, rhifau, siapiau a lliwiau, cyn symud ymlaen i dudalennau am adeiladau, parti, teulu a swyddi. Dyma drysor o gyfrol i’r teulu cyfan.

Dwmbwr Dambar – Ben Newman, addasiad Elin Meek

Mae’r arth yn edrych ymlaen i fwyta ei frechdan flasus, ond yn sydyn mae’n baglu dros graig. Dyma addasiad Cymraeg o Rumble Tumble, stori rholio a phowlio ddoniol, gyda thudalennau mewnol llai a geiriau i blant ac oedolion ddweud gyda’i gilydd, ynghyd â chreu sŵn.

Edrychwch Beth Fedra i Wneud! – Jon Roberts, addasiad Mary Jones

Mae pob plentyn yn wahanol. Mae rhai yn swnllyd, yn hoffi siarad a dangos eu hunain. Mae eraill yn dawel ac yn hoffi bod ar eu pen eu hunain. Mae gan rai wahaniaethau y gallwch eu gweld, ac mae gan eraill wahaniaethau nad ydyn nhw mor amlwg. Dyma gyfrol sy’n dathlu ein bod ni gyd yn unigryw. Mae gennym i gyd ein bywydau ein hunain, ein breuddwydion ein hunain a’n doniau ein hunain.

Cymry o Fri! – Jon Gower

Cyfrol sy’n cloriannu hanes 50 o enwogion o Gymru o wahanol gyfnodau mewn hanes. Ceir yma hanes Alfred Russel Wallace, Kate Bosse-Griffiths a Colin Jackson, a sawl un arall. Yn ogystal â lluniau trawiadol gan yr arlunydd Efa Lois, ceir ffotograffau yn ogystal ag ambell gwestiwn ar ffurf cwis, a chyfle i wneud gwaith ymchwil ar y we.

Ga’ i Fyw Adra? – Haf Llewelyn

Wedi ei gosod yn ystod gaeaf garw 1981, mae Dafydd a Llinos yn gwpwl ifanc sy’n gobeithio symud i fyw i hen gartref Nain. Ond mae ewythr i Dafydd yn awyddus i werthu’r tŷ fel tŷ haf. Mae tensiynau’n codi, ac ynghanol ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr mae cyhuddiadau’n cael eu taflu. Yn sydyn mae Dafydd mewn helynt. Dyma stori sy’n parhau’n berthnasol i broblemau Cymru heddiw.

Chwedlau’r Copa Coch: Oes yr Eira – Elidir Jones a Huw Aaron

Dyma’r drydedd nofel yng nghyfres Chwedlau’r Copa Coch. Yng nghwmni Orig y tafarnwr, mae Sara, Pietro, Heti a Nad yn cael eu denu yn erbyn eu hewyllys i un o’r llefydd mwyaf diflas yn y byd, yn llawn defaid, glaswellt, pentrefi di-nod… ac, os oes unrhyw wirionedd yn y straeon diweddaraf, hen dduw anghofiedig sy’n crwydro’r tir, yn mynnu dial ar deyrnas sydd wedi ei adael ar ôl. Dyma nofel a fydd yn apelio at ddarllenwyr hen ac ifanc sy’n hoff o antur, brwydrau a pherygl.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH