Lleuwen – Emynau Coll y Werin // Lost Welsh Folk Hymns

Cerddoriaeth

Lleuwen yn cyhoeddi taith ‘Emynau Coll y Werin’ o Gapeli Cymru.

Tra’n rhan o brosiect 10 Mewn Bws gyda Trac Cymru, mi gafodd Lleuwen Steffan gyfle i dyrchu trwy’r archif sain yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Nid yr alawon gwerin aeth â’i bryd ond yr hen emynau llafar gwlad. Emynau answyddogol y Cymry yw’r rhain, y rhai na chafodd eu cynnwys yn y llyfrau emynau enwadol.

Yn dilyn degawd o ymchwilio pellach a chyd-weithio cyson ag Amgueddfa Werin Sain Ffagan, dyma gychwyn sesiynau cyhoeddus Lleuwen gyda’r emynau hynny. Gan ddefnyddio deunydd sain o archifau Sain Ffagan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Lleuwen yn perfformio gyda recordiadau o’r hen Gymry.

Hen eiriau, cerddoriaeth newydd, neges oesol.

Meddai Pascal Lafargue o Amgueddfa Werin Sain Ffagan:

“Mae hi wedi bod yn anrhydedd cael Lleuwen yn gweithio gydag ein harchifau sain. Diolch i’w dawn a’i hangerdd am lên gwerin a’i gwaith hir ac amyneddgar, mae hi wedi llwyddo i greu rhywbeth hollol wreiddiol gyda thrysorau a oedd yn eistedd yn segur yn ein harchifau.”

Yn ogystal â’r emynau ceir enghreifftiau o bregethwyr yn mynd i hwyl ac atgofion o ddiwygiad 1904 gan gynnwys llais cylinder cŵyr o Efan Roberts yn 1905.

Mae’r daith wedi ei noddi gan Undeb yr Annibynwyr; yr Eglwys Bresbyteraidd a Bedyddwyr Gogledd Ddwyrain Cymru. Mynediad am ddim.

Croeso i bawb!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â owain@pyst.net.

RHANNWCH