Glas, Bwletin Llên Natur
Mae’r Bwletin wedi cael sawl gwedd-newidiad ers cychwyn yn ôl yn 2008. Ond y newid enw i Glas yw’r newid mwyaf efallai. Pam GLAS meddech? Wel dyma pam…
Yn y Gymraeg mae’r gair glas yn ddiddorol. Mae’n golygu’r lliw glas fel arfer ond hefyd mae’n golygu ‘gwyrdd’ ac yn aml yn awgrymu tyfiant ffres, iraidd. Yn y Gymraeg a’i chwaer iaith Llydaweg hefyd fe gyfyngir yr ystyron ychwanegol hyn i bethau byw neu naturiol yn unig. Dyna i chi gwellt glas, blewyn glas, buwch las, bryniau gleision. Ac mi gofiwch efallai hefyd cerdd hiraethus AE Houseman, “The Blue Remembered Hills”. Onid yw Glas yn chwip o enw i’n cylchgrawn felly.
Darllenwch y Bwletin llawn YMA