COFRESTRU YMA
Dyma drydydd cronfa Llais y Lle. Hyd yma, mae 29 unigolyn ar draws Cymru wedi ymuno a ni ar siwrnai o ddarganfod …Sut gallwn osod y Gymraeg a diwylliant Cymraeg yng nghanol creadigrwydd cymunedol gan annog perchnogaeth a defnydd ohoni?
Nod y gronfa yw datblygu’r defnydd creadigol o’r Gymraeg o fewn cymunedau trwy alluogii unigolion creadigol i gydweithio a chyd-greu gyda chymuned benodol.
Mae angen, profiad a photensial pob cymuned yn wahanol ac mae’r amrywiaeth o gynlluniau sydd wedi eu cynnal eisioes yn adlewyrchu hyn. Dyma’ch cyfle chi. Os oes gennych syniad sut gallwch chi weithio gyda chymuned benodol i fynd i’r afael a’r her, rhowch gynnig arni.
Does dimdisgwyl i chi wybod beth bydd penllanw’r gwaith wrth geisio ond rhaid bod gennych gynllun gweithredu creadigol clir fydd yn caniatau llais canolog i’r Gymraeg ac i’r gymuned. Chi a’r gymuned sydd i benderfynu ar y dulliau mwyaf perthnasol i’w defnyddio er mwyn mynd i’r afael a’r gofyn.
Rydym yn croesawu ceisiadau o bob cwr o Gymru ond byddwn yn blaenoriaethu’r ardaloedd canlynol: Caerffili, Torfaen, Fflint, Meirionydd, Sir Benfro, Casnewydd, Penybont.