Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn falch o gyhoeddi lein-yp ‘Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021’.
Ar ddydd Sadwrn 17/07/21 bydd y Sesiwn Fawr yn ffrydio cerddoriaeth a sesiynau comedi a llên yn rhad ac am ddim ar AM.
Yn rhan o’r arlwy mae Angharad Jenkins (Calan) yn cyflwyno rhaglen o sesiynau cerddorol sydd wedi’u ffilmio yn nifer o leoliadau unigryw yr ŵyl, ac yn cynnwys rhai o wynebau fwyaf cyfarwydd y sîn yng Nghymru: Vrï, Glain Rhys, Huw Dylan, Beca, Derw, ac I Fight Lions.
Yn ogystal â cherddoriaeth, bydd casgliad o sesiynau i blant, sgyrsiau llenyddol eu naws, a chomedi yn cael eu rhannu ar blatfform AM, gan gynnwys pennod arbennig o bodlediad Colli’r Plot, sgwrs banel gan awduron bocset ‘Y Pump’ (Y Lolfa), ysgrif wedi ei gomisiynnu gan O’r Pedwar Gwynt, a sesiwn gomedi gyda Hywel Pitts. Bydd gwybodaeth bellach am yr ŵyl yn ei chyfanrwydd ar wefan Sesiwn Fawr Dolgellau.
Meddai Guto Dafydd Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau: “Roedd Pwyllgor y Sesiwn yn awyddus i gefnogi artistiaid Cymru ar ôl blwyddyn go segur, a chynnig digwyddiad i’n cefnogwyr triw. Felly braf oedd medru gwahodd unigolion a bandiau yn ôl i Ddolgellau unwaith eto – nid am gigs byw am y tro, ond yn hytrach i recordio setiau byw llawn egni.
“Roedd y wên ar wynebau’r artistiaid yn dweud y cwbl yn dilyn gaeaf a chyfnod clo hir o fethu perfformio. Er nad oedd modd cynnig llwyfan a chynulleidfa iddynt roedd cael perfformio yn amlwg yn cynnig gwefr iddynt. Mae’r amrywiaeth safleoedd ffilmio yn adlewyrchu’r Sesiwn Fawr draddodiadol. Y gobaith fydd denu gwylwyr o bell ac agos i fwynhau Sesiwn Fawr Digi-Dol.”
Mae posteri blynyddol y Sesiwn Fawr hefyd yn rhan annatod o hanes yr ŵyl, a nifer o bosteri’r gorffennol yn ddarnau eiconig o waith celf. Dyluniwyd poster Sesiwn Fawr Digi-Dol 2021 gan yr amryddawn Sioned Medi.
Ychwanega Guto Dafydd: “Cefnogwch y Sesiwn a’i hartistiaid fel unrhyw flwyddyn arall, a gobeithiwn y bydd modd i ni drefnu a chynnal dathliad o 30 mlynedd o’r Sesiwn Fawr yn 2022.”
Am ragor o fanylion, ewch i wefan sesiwnfawr.cymru