Cartref digidol diwylliant Cymru.

Lansiad ‘O Ffrwyth y Gangen Hon’

Llenyddiaeth

Bydd lansiad ‘O Ffrwyth y Gangen Hon’ yn cael ei gynnal yn Queer Emporium, Caerdydd ar Fawrth 20th am 7yh.

Cerddi am orfoledd – dyma oedd yr alwad agored i “feirdd benywaidd o bob cefndir” flwyddyn yn ôl. A dyma’r flodeugerdd wedi dwyn ffrwyth, gyda chyfraniadau gan leisiau cyfarwydd a lleisiau newydd sbon. O gerddi tyner i rai swnllyd a doniol, cewch flasu amrywiaeth o farddoniaeth yn y gyfrol hon – wedi eu cyfuno â gwaith celf dychmygus Myths n Tits – i ddathlu benyweidd-dra yn ei gyfanrwydd. Prynwch eich copi o ‘O Ffrwyth y Gangen Hon’ yma.

Bydd Casi Wyn yn holi’r golygydd, Nia Morais, a bydd Paned o Gê yn gwerthu copïau yn ystod y noson. Ceir lluniaeth ysgafn, a bydd Megan James yn tynnu lluniau.

Dewch yn llu!

RHANNWCH