Yn ystod y cyfnod clo, datblygwyd prosiect newydd o’r enw TRIONGL i gefnogi gweithwyr llawrydd y celfyddydau, sydd wedi colli gwaith ers Mawrth 2020. Mae’r prosiect, a guradwyd gan Griff Lynch wedi cefnogi 27 o weithwyr llawrydd mewn tri prosiect gwahanol ac yn cyflywyno celfyddyd yn ddigidol.
Ganwyd Junko Mori yn Yokohama, Siapan ond bellach mae’r artist yn byw yn Nhudweiliog. Mae ei gwaith celf wedi’i arddangos ar hyd a lled y byd. Ysbrydolir nifer o’i cherfluniau gan goed a phlanhigion ac mae ganddi broses arbennig o greu ei gwaith. Byddwn yn dogfennu’r broses arbennig hwnnw mewn ffilm fer wedi gynhyrchu a’i gyfarwyddo gan y ffotgraffydd Kristina Banholzer gyda’r ffotograffydd, animeiddiwr a golygydd Sian Angharad a cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan y cerddor a feiolinydd Simmy Singh.