Yn ein harchifau yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon – y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r côf, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth.
Mae Atgyfodi yn cyflwyno lleisiau a recordiadau coll o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan trwy gyfrwng gosodweithiau trwythol sy’n cyfuno sain amgylchynol, delweddau a ffeindiwyd a rhai a ffilmiwyd yn benodol. Wrth blethu’r rhain gyda chyfansoddiadau cerddorol cyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gôf y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel ‘collage’ gyda recordiadau maes o safleoedd gwreiddiol adeiladau’r amgueddfa a recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd fel Tyrone O’Sullivan o Bwll Glo Tower a’r ffermwr Arthur Morris Roberts, a welodd foddi Capel Celyn pan roedd yn fachgen ifanc.
Mae Atgyfodi yn bwrw golau ar gyfoeth traddodiad cerddorol Cymru: Caneuon a straeon sy’n cael eu canu a’u hadrodd gan bobl go iawn. Fe ddylanwadodd gweadau a seiniau’r bywydau yma ar arddull gyfansoddiadol y gerddoriaeth a phroses greu’r prosiect. Wrth galon y cyfan roedd yr alawon traddodiadol, y farddoniaeth a rhythmau soniarus yr iaith lafar.
Ffilmiwyd a golygwyd gan Philip Jenkins