Cartref digidol diwylliant Cymru.

Joeseph Conran – Artist Preswyl 2025

Preswyliad Celfyddydau Gweledol  10/05/25–24/05/25 

Mae Joseph Conran yn artist ac yn strategaethydd ym maes yr amgylchedd. Mae ei ymarfer yn byw yn y gofod rhwng pobl a byd natur, gan gyfeirio’n aml at brosesau naturiol fel ffordd o archwilio dynoliaeth. Yn ei waith artistig a strategol, mae Joseph yn creu gofodau lle gall creadigrwydd ysbrydoli pobl i feddwl yn ddyfnach am eu cysylltiad â byd natur, a’u rôl wrth warchod ei dyfodol.

Yn ystod ei breswyliad, datblygodd Joe ddau brosiect cydgysylltiedig a fydd yn cael eu datblygu ymhellach ar ôl dychwelyd i’r tir mawr.

Cafodd y cyntaf ei ysbrydoli gan yr idiom Gymraeg a’r gerdd Bro gan T H Parry-Williams, gan archwilio ffyrdd newydd o fapio ac amlygu “esgyrn” lle. Llosgodd Joe fap o Enlli ar gynfas, gan ei haenu â deunyddiau, geiriau ac arsylwadau a gasglwyd ar yr ynys. Drwy weithdai gyda thrigolion, ymchwil yn yr Ysgol a’r Wylfa Adar, cyfunodd iaith bob dydd, myfyrdodau personol a therminoleg wyddonol i greu cofnod barddonol o le.

Defnyddiodd ei ail brosiect system ddosbarthu fotanegol Carl Linnaeus o’r 18fed ganrif a’r gerdd The Loves of the Plants gan Erasmus Darwin fel fframweithiau i archwilio ecoleg Enlli. Drwy astudiaeth fanwl o blanhigion lleol dan ficrosgop, crëwyd modelau cerfluniol bach sy’n ymgorffori ffurf, amgylchedd a symbolaeth gymdeithasol pob planhigyn, gan ail-lunio hanes naturiol yr ynys drwy lens gyfoes a beirniadol.

Tra’n Enlli, cynhaliodd Joe dri gweithdy a thair sesiwn stiwdio agored. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys casglu geiriau, sylwadau a deunyddiau a gafwyd gan breswylwyr ac ymwelwyr fel rhan o’r ymchwil.

www.josephconran.com 

@josephconran 

RHANNWCH