Yn Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn, cyhoeddwyd mae Jac a’r Angel gan Daf James yw enillydd categori cynradd Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Y Lolfa.
Dyma nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori’r bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd.
Dywedodd Daf James: “Ers i fi fedru darllen yn blentyn, dwi wedi bod yn ymwybodol o wobrau Tir na n-Og, gan fod cynifer o’r awduron ro’n i’n eu mwynhau wedi ennill y wobr: awduron fel T. Llew Jones, J. Selwyn Lloyd, Irma Chilton, Gwenno Hywyn, Penri Jones, Jenny Nimmo… mae’r rhestr yn hirfaith! Mae’n wobr hollbwysig sy’n dathlu ac yn tynnu sylw haeddiannol at lyfrau plant a phobl ifanc, ac mae cael ymuno â rhestr o arwyr llenyddol fy mhlentyndod yn gwireddu breuddwyd fawr i mi.
Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau – nid dramâu – oedd fy angerdd llenyddol cyntaf. Roedd cael dianc i fyd y stori yn falm i’r enaid pan on i’n grwtyn bach ecsentrig, a dwi wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny. Dod yn dad nath fy ysgogi i fwrw ati – ro’n i eisiau sgwennu stori i’m plant – ac felly dwi’n diolch o waelod calon iddyn nhw am fod yn ysbrydoliaeth; ond hefyd dwi’n ddiolchgar i’r awduron hynny a ddaeth o’m blaen, ac a wnaeth i fi gredu, fel Jac yn Jac a’r Angel, bod unrhyw beth yn bosib pan fo’r dychymyg ar dân.”
Dyma Daf James yn darllen detholiad o’r gyfrol.
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.