Mae Adeola Dewis yn gweithio ar hunaniaeth, diaspora a’n perfformiadau o ddernynnau; y tameidiau a’r darnau hynny sy’n atseinio drwy ddefod, symudiad, llais a gwisg. Ar gyfer y prosiect hwn mae hi’n archwilio ‘Midnight Robber’ – sef cymeriad o Garnifal Trinidad traddodiadol sy’n gysylltiedig â chymeriadau’r hen orllewin o nofelau a ffilmiau cowbois. Mae’r ‘robber talk’ yn rhan nodweddiadol o gymeriad y ‘Robber’, ac yn ôl haneswyr, yn deillio o draddodiadau griot Gorllewin Affrica.
Mae Aled Simons yn awyddus i gysylltu ag artistiaid sy’n wynebu heriau yn eu ffyrdd o weithio yn sgil hunan ynysu, a hynny y tu hwnt i bandemig covid-19. Bydd ei ffrydiad byw o waith newydd gan gyfranwyr gwadd yn archwilio thema Calan Gaeaf/Samhain/Halloween, o bersbectif dewiniaeth cartref, siwdowyddoniaeth amaturaidd neu “dderwydd yn siopa yn Aldi.”
Mae Nasima Begum, mewn cydweithrediad â detholiad o fenywod o Aurora Trinity Collective, yn gweithio ar ffilm fer sy’n trafod meddyliau a theimladau ynglŷn â gwaith tŷ. Drwy storiau a phrofiadau menywod mae’r ffilm yn archwilio beth yw gwerth gwaith tŷ. Mae’r prosiect yn creu gofod diogel i rannu teimladau a meddyliau, ar adeg pan fo ynysu wedi peri inni roi sylw arbennig ar “gartref.”
Mae Sarah Jenkins yn cynnig gwaith ffilm newydd – ‘Request Stop’, sy’n ffocysu ar ei phentref genedigol, Glan-y-Fferi, Sir Gaerfyrddin. Mae Glan-y-Fferi yn bentref bychan gydag oddeutu 1000 o drigolion. Mae’r pentref yn un o 150 o fannau aros ar gais y rheilffordd ym Mhrydain. (O’r 150 mae dros 60 yma yng Nghymru). Daw’r gwaith hwn â chwedlau lleol, ffeithiau hanesyddol a straeon ynghyd. Mae’r casgliad o storiau yn Gymraeg a Saesneg yn dilyn y traddodiad llafar ac yn archwilio sut gall adrodd stori a chreu chwedlau chwalu’r hierarchaeth sydd mewn hanes a diwylliant cyfoes.
Mae Radha Patel yn llenor ac artist y mae ei gwaith yn cyflwyno croestoriad o effeithiau gwladychu, natur, crefydd a’r dyfodol. Wedi’i hysbrydoli gan “Fatima’s Letter” Alia Syed, bydd yn gweithio ar naratif dyfodolaidd am fenyw ifanc sy’n mynd i’r gofod i chwilio am ei chwaer. Ar ei ffordd mae hi’n archwilio planedau gwahanol gan adrodd yn ôl wrth ei mam am bopeth y mae hi’n ei weld / yn ei deimlo / yn ei glywed. Fel rhan o’r gwaith hwn bydd hi’n adeiladu naratif drwy gael sgyrsiau ag artistiaid croenliw am eu perthynas hwy gyda’u mamau. Bydd hi’n “fframio’r llythyr a’r ffilm fel deialog gyda’r nod o weld cymodi rhwng y fam a’r ferch, y Ddaear a phlanedau eraill.”
Mae mwnwgl yn gyhoeddiad a fforwm ar gyfer celf ac ysgrifennu cyfoes, nad yw’n bodoli hyd yma. Wedi’i sefydlu gan Elin Meredydd, Esyllt Lewis a Dylan Huw, y bwriad yw archwilio potensial y tir ffrwythlon hwnnw sydd gan ddiwylliannau ac ieithoedd a ystyrir yn lleiafrifol ar gyfer ffurfiau newydd ar ddychymyg. “Mae gennym ni ddiddordeb yn y potensial sydd gan fylchau, darnau coll, gwyriadau a chamddealltwriaeth ar gyfer creu bydoedd newydd.”
Ar gyfer Intermission mae mwnwgl yn cynhyrchu cyfres o ddigwyddiadau a chyhoeddiadau ‘lo-fi’ a ddosberthir am ddim. Bydd y rhain yn llifo o un cyfrwng ac un iaith i gyfrwng ac iaith arall ond yn glynu at yr un thema, sef, anghyfiaith. Golyga anghyfiaith nid o’r un iaith, yn siarad neu’n ymwneud ag iaith estron, mewn iaith estron, yn yr iaith wreiddiol, heb ei gyfieithu; estron, dieithr, od.
Artist gydag ymrwymiad cymdeithasol cryf yw Rabab Ghazoul ac y mae ei gwaith yn archwilio’r mannau hynny lle y mae systemau pŵer a’r unigolyn yn cwrdd. Mae’n archwilio lleisiau sydd heb siarad eto, y lleoedd hynny sydd yn y canol, y “rhwng”, a’r wladwriaeth. Ar gyfer Intermission, bydd hi’n palu drwy’i harchif sy’n cynnwys gwerth dau ddegawd o’i llyfrau nodiadau personol a chreadigol. Y bwriad yw ailymweld â’r deunyddiau hyn a’u curadu, er mwyn procio a chreu cyfres newydd o sgyrsiau gyda’i chymdogion agosaf. Yr un pryd, bydd Rabab yn archwilio’r syniadau sy’n bodoli ynglŷn â’r gair ‘curate’ (curadu), gair sy’n dyddio nôl i’r Lladin ‘cura’ sy’n golygu gofal. Drwy’r canol oesoedd esblygodd y gair ‘cura’ i ‘curatus’ sef gofal am yr enaid.
Tra byddwn wrthi’n ail-lunio g39 dros y misoedd nesaf yn barod ar gyfer ailagor, cadwch lygad ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn rhannu manylion pellach wrth i’r comisiynau ddatblygu.