Wedi’i gomisiynu gan Tŷ Cerdd ar gyfer prosiect Affricerdd 2025, ‘I Siarad’ yw cân werin gyfoes yr artist Frances Abigail Bolley – ei chyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n gân sy’n ymwneud ag iaith, cartref, hunaniaeth, a phŵer llais — o hanes gwleidyddol y Gymraeg i’r profiad personol o fod yn rhannol-eiriol a’n awtistig.
Yn addasiad o’r gerdd ‘Ground’ gan David Whyte, mae’r geiriau’n plethu’r cysylltiad cryf sy’n bodoli rhwng lle ac iaith.
Rhan o Gronfa Fideos PYST x S4C