Cartref digidol diwylliant Cymru.

Hysbyseb BLAS

Dyfeisiwyd y ffilm hon gan aelodau dosbarth blwyddyn 10-13 BLAS, Pontio. Mae rhai o’r aelodau hyn yn aelod o BLAS ers dros 7 mlynedd, a bellach yn eu tymor olaf fel aelodau ac mae nifer ohonynt yn mynd tua’r Brifysgol ym mis Medi. Felly, er mwyn diweddu eu cyfnod gyda BLAS wnaethom drosglwyddo ein dosbarthiadau drama wythnosol sy’n arfer cael eu cynnal yn Theatr Stiwdio Pontio i rai dros Zoom ers i Pontio gau o ganlyniad i Covid-19. Yn ystod eu tymor olaf, trafodwyd y syniad o greu ffilm dros Zoom a dyma’r canlyniad. Gwyliwch ar AM 08.07.2020.

Canllaw oed: 12+

Cast:

Miles Kay
J Jennions
Christopher Jones
Daniel Raja
Jack Myrick
Joanna Thickett
Kai Melville-Richards
Osian Zarach
Rowan Daws
gyda: Mared Elliw Huws a Gwion Aled Williams

Diolch i Louis Wrench a Sadie Pickavance am eu cymorth.

RHANNWCH