120960 fydd ein hymgais gyntaf ar greu theatr ddigidol. Wedi ei ddyfeisio gan Gwmni Ifanc Frân Wen, mae’r cynhyrchiad yn cychwyn 120960 munud ers cadarnhau’r achos gyntaf o’r coronafirws yn Wuhan, Tsieina ac yn ymateb i’r byd dros y 120960 munud yn dilyn hynny. Mae’r cwmni ifanc yn ymarfer dwywaith yr wythnos drwy blatfformau digidol er mwyn ymateb yn greadigol i fywyd fel person ifanc yng Nghymru heddiw. Beth yw’r newidiadau yn ein bywydau? Beth mae rhain yn ei olygu i ni ac ein dyfodol? Ai amser prin i gymryd stoc a gwerthfawrogi? Bydd y cwmni yn rhannu ei waith ar 19eg o Fehefin, lleoliad (digidol) ac amser i’w gadarnhau.