Mae cân Nadoligaidd Gymraeg yn cael ei chyhoeddi heddiw, sef Hwyl yr Ŵyl. Mae’r gân a gyfansoddwyd gan Barnaby Southgate gyda geiriau gan Phylip Harries. Pwrpas y gân yw i godi arian i barhau â’r gwaith theatr i bobl ifanc ac i gefnogi weithwyr hunan-gyflogedig.
Perfformiwyd Hwyl yr Ŵyl gan actorion Daniel Lloyd a Carys Gwilym, a bydd ar gael ar bob un o lwyfannau Theatr na nÓg ac anogir rhoddion neges destun o £5 + trwy anfon neges destun at TNN a’r swm yr ydych am ei roi i 70085. ee: I roi £5, tecstiwch TNN5 i 70085. Mae negeseuon testun yn costio gwerth eich rhodd ynghyd ag un neges cyfradd safonol.
Am delerau ac amodau llawn ewch i www.theatr-nanog.co.uk/cy/cefnogwch-ni
Y cwmni theatr o Gastell-nedd, Theatr na nÓg yn rhyddhau cân Nadolig i godi arian
Mae’r gân a gyfansoddwyd gan Barnaby Southgate gyda geiriau gan Phylip Harries yn rhan o galendr adfent ar-lein Theatr na nÓg – Anturiaethau yr Adfent, sydd ar gael am ddim i bob ysgol yng Nghymru. Perfformiwyd y gân gan actorion Daniel Lloyd a Carys Gwilym. Nôd y gân yw i godi arian i barhau y gwaith theatr mae’r cwmni yn cyflawni bob blwyddyn. Ond eleni mae’n dra gwahanol gyda theatrau ar gau a chyfyngiadau ar gynulleidfaoedd, felly mae’r cwmni bach wedi mynd ati i ddod o hyd i ffyrdd newydd o barhau ei waith theatr i bobl ifanc ac i helpu i gynnal yr artistiaid hunan-gyflogedig sy’n dibynnu ar y diwydiant hwn am eu bywoliaeth.
Mae’r actor a’r cerddor Daniel Lloyd wedi perfformio mewn theatrau ledled y Cymru, y DU, a’r West End yn The Commitments, ac ar hyn o bryd gellid gweld ar raglen Rownd a Rownd ar S4C. Mae’n gwybod ond yn rhy dda yr effaith y mae’r pandemig wedi’i gael ar ei ddiwydiant. “Rydw i wedi bod yn llawrydd ers 2004 felly dwi’n gwybod sut beth yw aros am y gwaith nesaf a byw o un wythnos i’r llall. Ond mae hyn, mae’n lefel arall, mae wedi bod yn frwydr i gynifer – yn ariannol ac yn feddyliol.
“Ond mae bod yn rhan o Hwyl yr Ŵyl a llawer o brosiectau eraill gyda Theatr na nÓg wedi rhoi hwb i mi yn sicr. A’r hyn sydd wedi fy nghyffwrdd yn fawr yw’r ymdrech y mae Theatr na nÓg wedi’i rhoi i helpu gweithwyr llawrydd i gynnal rhywfaint o batrwm gwaith trwy gydol pandemig Covid. Nid oedd yn rhaid iddynt gomisiynu’r gân hon, ac nid oedd yn rhaid iddynt sicrhau y bydd yr arian yno i gynhyrchu gwaith y gallaf i, gobeithio, weithio arno, a fydd yn difyrru eu cynulleidfaoedd.”
Gyda theatrau ar gau a pherfformiadau byw wedi’u cyfyngu mae’r cwmni cynhyrchu theatr arobryn wedi treulio’r 8 mis diwethaf yn canolbwyntio ar gyflogi actorion, dylunwyr, technegwyr ac awduron llawrydd i greu gwaith newydd mewn ffyrdd newydd. Maent wedi cefnogi dros 100 o weithwyr llawrydd ar dros 16 o brosiectau ers mis Ebrill, gan gynnwys dramâu radio a chynyrchiadau ar-lein yn Gymraeg a Saesneg, ac wedi datblygu sioe gerdd roc newydd sbon.
Mae effaith Covid ar y diwydiant wedi golygu bod mwyafrif gweithwyr llawrydd y diwydiant creadigol wedi gweld eu bywoliaeth yn diflannu dros nos. Soniodd y Cyfarwyddydd Artistig, Geinor Styles am y dinistr y mae Covid yn ei adael yn ei sgil: “Mae wedi bod yn dorcalonnus gweld lefel y di-ystyriaeth i’n crefft a’n diwydiant. Mae’n faith bod y diwydiant theatr werth miliynau o bunnoedd i’r economi. Mae hefyd yn bwydo ein heneidiau ac yn adfywio ein hysbryd. Fedrwn ni ddim jyst ailhyfforddi. Mae pobl wedi buddsoddi blynyddoedd o’u hamser i ddatblygu eu crefft, felly mae’n bwysig i ni fel cyflogwr o oddeutu 20 i 30 o weithwyr llawrydd bob blwyddyn i’w cefnogi. Rhaid i ni ymdrechu i barhau i gynhyrchu theatr sy’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i greu cymdeithas hyderus a thosturiol.
“Rydyn ni’n galw ar bawb sydd wedi ymgysylltu, cymryd rhan a gweld ein cynyrchiadau ers 1984, hynny yw dros filiwn o bobl, i geisio dychmygu byd heb theatr. Byddem wrth ein boddau pe byddech yn gwrando ar y gân a theimlo awydd i roi’r hyn y gallwch.”
Mae calendr adfent ar-lein Theatr na nÓg Anturiaethau yr Adfent yn rhad ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru, a gellir ei weld trwy gofrestru ar rhestr bostio’r cwmni. Mae’n dechrau ar yr 1af o Ragfyr ac yn parhau hyd at noswyl Nadolig.
Mae Hwyl yr Ŵyl ar gael ar bob un o lwyfannau Theatr na nÓg ac anogir rhoddion neges destun o £5 + trwy anfon neges destun at TNN a’r swm yr ydych am ei roi i 70085. ee: I roi £5, tecstiwch TNN5 i 70085. Mae negeseuon testun yn costio gwerth eich rhodd ynghyd ag un neges cyfradd safonol.