Cymdeithas Orllewinol. Peiriant-defnyddwyr patriarchaidd, cyfalafol sydd ag obsesiwn gyda delweddau.
Trais rhywiol yn seiliedig ar rywedd. Salwch hollgynhwysol. Epidemig byd-eang.
Sut gallwn fod yn iach, pan mae’r cyflyru tros-ddiwylliant wedi ymdreiddio i mewn i’n croen?
Sut gallwn wella pan mae’n safonau cymdeithasol yn mynd yn erbyn yr hyn ‘rydym i gyd ei wir angen?
Lle gallwn fynd â’n poen, ein galar, ein trawma, ein dicter?
Lle gallwn siarad, wylo, gweiddi, galaru, cael ein clywed, a’n dal a’n dilysu?
Pur, prydferth, dwys, gobeithiol a beiddgar; mae Bethan yn rhannu ei stori.
Yn tynnu ar ei phrofiadau byw ei hun o geisio gwella trawma dwys.
Mae hi’n cyfuno tafluniad ffilm, symudiad, clown a’r gair ar lafar.
Yn archwilio effeithiau tymor hir trais rhywiol a theuluol.
Stori am syrthio i lawr, yn ddwfn i’r tywyllwch.
Am fynd ar goll, yn sownd ac yn gaeth, yn y gorffennol.
Stori am godi i fyny eto, a dod o hyd i’r goleuni.
Am ddechrau eto. Ac eto. Llawer. O. Weithiau.
CYFARWYDDYD OEDRAN: 18+ gan fod y sioe yn cynnwys noethni blaen llwyr, iaith anweddus a chyfeiriadau at drais a phroblemau iechyd meddyliol.
AMSER RHEDEG: 1 awr 45 munud – dim egwyl