Cartref digidol diwylliant Cymru.

Horizons Cymru – Independent Venue Week Highlights | Uchafbwyntiau Wythnos Clybiau Annibynnol

Cerddoriaeth

I ddathlu wythnos clybiau annibynnol 2021, ffilmiodd tîm Horizons 12 artist mewn sesiynau o 5 lleoliad gwerthfawr ar gyfer Cymru.

O glwb Neuadd Ogwen ym Methesda i Neuadd y Frenhines ar arfordir y gorllewin yn Arberth, o’r Galeri modern yng Nghaernarfon, i glybiau canol dinas Sin City yn Abertawe a Le Pub yng Nghasnewydd, gan gynnwys ehangder rhai o glybiau mwyaf Cymru. Dathlwn lleoliadau annibynnol annwyl, a’u rôl hanfodol wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent yn eu cymunedau lleol.

Mae’r artistiaid Cymreig sy’n perfformio sesiynau yn dod o bob genre, mae’r rhai sydd ar gyfer y daith yn cynnwys yr artist hip hopMace the Great, y gantores R&B Faith, y band roc Those Damn Crows, y brawd a’r chwaer Leila McKenzie a K(E)NZ, y gantores wlad Jodie Marie, cyfansoddwr caneuon hunan-gynhyrchu amgen Rona Mac, enigma low-fi Ennio The Little Brother, perfformiad unigol gan flaenwr Gwilym, sef Ifan Pritchard, deuawd roc Alffa, deuawd benywaidd newydd Body Water, a’r artist electro pop Malan.

Cerddoriaeth gan Simon Parton.

Mae’r rhaglenni dogfen llawn ar bbc iplayer nawr – chwiliwch am Horizons / Gorwelion

Am fwy o fanylion ewch i: bbc.co.uk/horizons

RHANNWCH