Cartref digidol diwylliant Cymru.

⭐ HIJINX UNITY FESTIVAL | GŴYL UNDOD HIJINX ⭐ 2022 Trailer

Gŵyl Undod Hijinx yw un o’r gwyliau celfyddydau anabledd cynhwysol mwyaf yn Ewrop a’r unig un o’i bath yng Nghymru…ac rydyn ni wedi paratoi rhaglen lawn ar gyfer ein 10fed flwyddyn! Bydd 12 diwrnod o berfformiadau, yn dwyn ynghyd rhai o’r enghreifftiau gorau o gelfyddydau a theatr anabledd a chynhwysol o bob rhan o’r byd i’w harddangos yma yng Nghymru.

3 ardal yng Nghymru | 7 lleoliad | 150+ perfformiad | Yn cynnwys dros 40 dangosiad ffilm

Am y tro cyntaf, bydd Gŵyl Undod Hijinx yn cynnwys Gŵyl Ffilmiau, a fydd yn arddangos rhai o’r enghreifftiau diweddar gorau o waith ffilm cynhwysol o Gymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a thu hwnt. Gallwch ymuno â ni ar-lein hefyd trwy ein platfform digidol newydd, Hijinx Mobile, mewn partneriaeth ag Escena Mobile a British Council. Byddwch yn barod ar gyfer llond lle o theatr, dawns, comedi, ffilm, theatr stryd naid a chynhyrchiad hybrid newydd cyffrous.

Caerdydd: 16 – 26 Mehefin
Bangor: 28 – 29 Mehefin
Llanelli: 1 -2 Gorffennaf

Archwiliwch y dudalen Beth sy’ ’Mlaen i weld y rhaglen lawn; porwch yn ôl genre neu yn ôl lleoliad i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi

RHANNWCH