Her yr Hydref: Aduniad – Elidir Jones

Llenyddiaeth

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.

Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau gan awduron poblogaidd yn cynnig cyfle gwych i bori mewn llyfr. Gyda’r llyfrau yn ddim ond £1 yr un, ac yn rhyw 100 o dudalennau o hyd, maen nhw’n berffaith ar gyfer taith trên i’r gwaith, darllen dros amser cinio neu ddeg munud gyda phaned.

Nofel arswyd lawn tensiwn, yn llusgo llen gwerin Cymru i olau dydd yw Aduniad gan Elidir Jones.

Ar ôl blynyddoedd ar wahân, mae pedwar hen ffrind coleg yn dod ynghyd ar lwybrau unig Cwm Darran er mwyn cerdded, yfed a hel atgofion … ond mae rhywun – neu rywbeth – yno gyda nhw, yn llechu yn y niwl.

Dros un noson ac un bore dychrynllyd, bydd cyfrinachau’n cael eu datgelu, ffrindiau yn troi’n elynion, a hunllefau’n dod yn fyw.

Darllenwch y bennod gyntaf AM DDIM yma!

Ar gael o’ch siop lyfrau leol, nawr.

RHANNWCH