Cartref digidol diwylliant Cymru.

Her Gyfieithu + Translation Challenge, 2020

Llenyddiaeth

Cyhoeddi enillwyr Her Gyfieithu a Translation Challenge 2020

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai enillwyr ein Her Gyfieithu a Translation Challenge eleni yw Grug Muse a’r Dr Eleoma Bodammer.

Bardd, golygydd ac ymchwilydd yw Grug Muse. Mae’n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn  Y Stamp  a choeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Barddas yn 2017. Mae hi’n un o breswylwyr rhaglen Ulysses Shelter 2020, sy’n un o brosiectau Ewrop Greadigol Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru, ac mae’n ddeiliad Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru 2020. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn O’r Pedwar Gwynt, Barddas, Poetry Wales ac eraill. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect doethurol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r Dr Eleoma Bodammer yn academydd Du Cymreig. Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Nghymru, a dysgodd Almaeneg yn yr ysgol gyfun yng Nghasnewydd. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Almaeneg ym Mhrifysgol Manceinion ynghyd â doethuriaeth gydag ysgoloriaethau AHRC a DAAD. Bellach mae’n Ddarllenydd ym Mhrifysgol Caeredin ble mae’n dysgu llenyddiaeth a gramadeg Almaeneg, yn ogystal â chyfieithu llenyddol rhwng Almaeneg a Saesneg. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar lenyddiaeth yr Almaen yng nghanol y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, cyfieithu llenyddol ac chynrychioli anabledd mewn llenyddiaeth.
Cyflwynir gwobr o £200 yr un i’r ddwy enillydd. Cyhoeddir y cyfieithiadau buddugol ar wefannau O’r Pedwar Gwynt a Poetry Wales a chyflwynir Ffon yr Her Gyfieithu, a noddir gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, am y cyfieithiad gorau i’r Gymraeg i Grug Muse.
Yr her eleni oedd cyfieithu dilyniant o gerddi byrion dan y teitl ‘Nahaufnahmen’ gan y bardd Zafer Şenocak o’r Almaeneg. Mae Zafer Şenocak yn byw ym Merlin, ac mae wedi dod yn llais blaenllaw yn nhrafodaethau’r Almaen ar amlddiwyllianedd, hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol, ac yn gyfryngwr rhwng diwylliannau Twrcaidd ac Almaeneg.
Daeth 11 ymgais i law beirniad yr Her Gyfieithu, Mererid Hopwood, a dywedodd mai ymgais Grug oedd y “cyfieithiad wnaeth ddal fy nychymyg yn fwy nag un o’r lleill ac a lwyddodd orau i greu’r teimlad o ‘gerdd’.”
Karen Leeder, awdur, cyfieithydd ac academydd yng Ngholeg Newydd Prifysgol Rhydychen, oedd yn beirniadu’r Translation Challenge. Dywedodd bod cyfieithiad Eleoma yn sefyll allan ar unwaith, yn dilyn yr iaith droellog yn berffaith ac yn llwyddo i ddal y naws idiomatig.

RHANNWCH