‘Mae’n gwbl hanfodol ffilmio rhyfel’ meddai Sergei Loznitsa, mewn cyfweliad fis Mawrth. Dyma un o wneuthurwyr ffilm amlycaf Wcráin heddiw. ‘Rhaid ffilmio, ffilmio, ffilmio er mwyn sicrhau bod digon o ddeunydd ar gael, fel bod modd, ymhen amser, ailymweld â’r hyn ddigwyddodd a myfyrio drosto. Rhaid dogfennu’r ffeithiau yn ddiflino; hanesyddiaeth uniongyrchol yw hyn, sy’n galluogi symud ymlaen.’
Ar 11 Mawrth 2022 roedd Lithiwania yn dathlu 32 mlynedd ers cyhoeddi annibyniaeth oddi wrth yr Undeb Sofietaidd a llwyddodd Loznitsa i gyrraedd Paris i gyflwyno a thrafod ei ffilm ddiweddaraf, Mr Landsbergis (2021) – yng nghwmni’r llysgennad. Roedd yn cael ei dangos fel rhan o ŵyl ffilmiau dogfen y Cinéma du réel yn y Centre Pompidou. Nid dim ond i Lithiwania yr oedd y dydd Gwener hwn yn perthyn: dyma oedd noson agoriadol yr ŵyl ddylanwadol hon wedi dwy flynedd â’i drysau ynghau o ganlyniad i’r pandemig. Ac i bobl Wcráin – a Loznitsa – dyma oedd pymthegfed dydd rhyfel Pwtin yn erbyn eu cenedl.
Darllenwch yn llawn ar wefan pedwargwynt.cymru.