Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gŵyliau 2022 Festivals

Cerddoriaeth

Uchafbwyntiau gŵyliau cerddorol y flwyddyn hyd yma ac edrych ymlaen i’r rhai sy’n dal i ddod

Dal i ddod…


Eisteddfod Tregaron, Maes B a Gigs Cymdeithas

Mae’r Eisteddfod, Maes B a Gigs Cymdeithas dim ond oriau i ffwrdd. Bydd PYST yno drwy’r wythnos i ddal y cyffro i gyd, felly cofiwch i’n dilyn ni ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r amserlenni a tocynnau ar gael ar gwefanau perthnasol: Cymdeithas; Maes B; Eisteddfod.


Green Man

Mae Green Man wedi cyhoeddi eu rhaniadau dyddiol. Edrych mlan i weld Papur Wal, El Goodo, Cerys Hafana, Rhodri Davies ac Adwaith yn cymryd dros y Walled Garden nos Iau. Ddim yn siwr ble i fyna na phwy i wylio? Peidiwch poeni – ni wedi paratoi amserlen perffaith fydd yn eich harwain chi i rai o artistiaid gorau Cymru a thu hwnt.

2022 hyd yn hyn…


Sesiwn Fawr Dolgellau


Cafodd DJs PYST YN DY GLUST amser gwych yn DJo yn Nolgellau eleni. Os oeddech chi’n methu bod yn yr ŵyl, mae rhaglen uchafbwyntiau ar gael draw ar S4C Clic.

Tafwyl

Bu Lŵp yn ffilmio draw yn Tafwyl eleni ac mae modd dal lan efo tipyn o’r perfformiadau draw ar eu sianel YouTube, gyda pherfformiadau gan Mellt, Ynys, Gwilym, Sŵnami, Ciwb ac Yws Gwynedd. Mae hefyd llwyth o gynnwys draw ar dudalen AM Tafwyl.

Glastonbury 

Roedd nifer o berfformiadau gan gymry yn Glastonbury eleni – Cate Le Bon, Overmono a Juice Menace i enwi rhai – ond, roedden ni yn PYST yn methu aros i wrando ar set Adwaith ar lwyfan BBC Introducing. Mae Adwaith newydd ryddhau eu hail albwm Bato Mato ar label Libertino HEDDIW, 1af Gorffenaf. Mae eu set byw CYFAN ar gael i wrando arno ar BBC Radio Wales, ac mae werth gwneud i glywed llwyth o draciau oddi ar eu halbwm newydd, yn ogystal â cwpwl o hen rai.

RHANNWCH