Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gŵyl Nantiaith: Angharad Price

Ysgrifennu o brofiad personol gydag Angharad Price.
AR GAEL : 12:00, 31.10.20 | YN FYW DROS ZOOM
*angen cofrestru ymlaen llaw erbyn 28.10.20 i gymryd rhan

Mae Angharad Price yn darlitho mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, ac newydd gyhoeddi cyfrol o ysgrifau o’r enw ‘Ymbapuroli’.
Mae gan bob un ohonom brofiadau trawiadol a diddorol y gallem ysgrifennu amdanynt. Mae’r sesiwn hon yn edrych ar wahanol ffyrdd o drawsnewid profiadau personol trwy ddulliau ysgrifennu creadigol. Sut mae mynegi profiad personol mewn ffordd gofadwy i’ch darllenwyrdd? Pa bethau dylid eu hosgoi wrth ysgrifennu o’ch profiad eich hun? Sesiwn addas i rai sy’n dechrau ysgrifennu yn ogystal ag awduron mwy profiadol.

Llefydd cyfyngedig. Rhaid cofrestru o flaen llaw erbyn 28.10.20 trwy gysylltu â marchnata@nantgwrtheyrn.org

RHANNWCH