Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gŵyl Gwenllian 2024

Cymuned

Dathlu Merched y Carneddau

07-09/06/2024

GWAHODDIAD I BENWYTHNOS GŴYL GWENLLÏAN

Dyma wahoddiad cynnes i chi i benwythnos o ddigwyddiadau Gŵyl Gwenllian 2024 sy’n cael ei chynnal eleni ar y 7-9fed Mehefin. Fel llynedd, byddwn yn talu teyrnged i Dywysoges Gwenllian trwy ddathlu creadigrwydd merched yr ardal a thu hwnt. Bydd
yr ŵyl yn cynnwys trafodaethau a sgyrsiau gydag artistiaid ac awduron benywaidd, gweithdai celf a lles, digwyddiadau i blant, teithiau cerdded ac arddangosfa gelf gan artistiaid benywaidd y fro.

Bydd gweithgareddau’r penwythnos yn agor gyda phererindod o Ffynnon Gerlan i Ffynnon Llechid gyda’r Parch Sara Roberts. Ddydd Sadwrn bydd gweithgareddau i blant yng Nghanolfan Cefnfaes gyda Angie Roberts a Linda Brown ac yn y prynhawn, bydd taith gerdded dan arweiniad Partneriaeth Tirwedd y Carneddau. Gyda’r nos, bydd noson Llymaid a Llên yn Y Fic yng nghwmni Sioned Erin Hughes – ble bydd cyfle i holi’r awdures am ei chyfrol ddiweddaraf ‘O’r Rhuddin’. Yn dilyn y sesiwn gyda Erin, bydd Casia Wiliam yn arwain sesiwn meic agored ble bydd cyfle i’r gynulleidfa rannu eu cerddi.

Bydd y dydd Sul yn canolbwyntio ar gelf gyda gweithgareddau Crefft a Lles yn y bore ac yna agoriad arddangosfa o waith artistiaid benywaidd lleol yng Nghanolfan Cefnfaes yn y prynhawn dan arweiniad Carn Cymunedol.

Trefnir yr holl benwythnos gan griw bychan sy’n gyfuniad o staff Partneriaeth Ogwen a chriw o wirfoddolwyr a mae’n adeiladu ar ein ymrwymiad i gofnodi diwrnod cofio’r Dywysoges Gwenllian ac hefyd i ddathlu diwylliant a chreadigrwydd merched yr ardal. Gobeithiwn eich gweld un ag oll yn cefnogi’r digwyddiadau a plîs rhannwch y wybodaeth gydag eraill. Mae’r rhaglen llawn ar gael ar wefan www.partneriaethogwen.cymru 

RHANNWCH