Penwythnos o ddigwyddiadau i ddathlu merched y Carneddau yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda a’r ardal.
Fydd yr ŵyl yn cynnwys trafodaethau a sgyrsiau gydag artistiaid ac awduron lleol, gweithdai celf a ioga i deuluoedd, teithiau tywys, taith beics a mwy. Thema’r ŵyl eleni yw Dathlu Merched y Carneddau, a rydym yn gyffroes iawn i allu rhoi sylw i gymaint o ferched talentog yr ardal.
Cynefin a chreu fydd ffocws gweithgareddau dydd Sadwrn gyda gweithgaredd celf i blant yn y bore efo cinio am ddim gan Hwb Ogwen, wedyn paneli a sgyrsiau efo artistiaid ac awduron lleol, yn cynnwys sgyrsiau gyda Manon Steffan Ros ac Alys Conran. Mae tocynnau yn £5, yn cynnwys te prynhawn, ac ar gael trwy’r ddolen yma.
Mi fydd dydd Sul yn canolbwyntio ar weithgareddau awyr agored ac iechyd meddwl. Rydan ni’n cychwyn y diwrnod efo taith feics i ferched wedi ei arwain gan Eleanor Elis-Williams, a sesiwn ioga i deuluoedd yng Ngerddi Ffrancon efo Leisa Mererid. Yn y pnawn, cynhelir taith gerdded i fyny Moel Faban efo Partneriaeth Tirwedd y Carneddau efo gweithgaredd gwehyddu ar y copa. I gloi’r diwrnod, bydd y Parchedig Sara Roberts yn arwain pererindod fer o Ffynnon Gerlan i Ffynnon Llechid gan drafod Santes Llechid.
Mae’r penwythnos yn gyfle i ddathlu diwylliant a chreadigrwydd merched yr ardal a gobeithiwn eich gweld un ag oll yn cefnogi’r digwyddiad. Diolch i’r prif noddwyr, Partneriaeth Tirwedd y Carneddau y gefnogaeth.