Bydd Gŵyl Cymru, digwyddiad 10 diwrnod*, yn uno cymunedau ar hyd a lled Cymru ac ar draws y byd gan ddathlu ymgyrch hanesyddol tîm pêl-droed cenedlaethol y dynion yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.
Bydd Gŵyl Cymru yn uno ac amlygu’r cyfoeth o gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer Cwpan y Byd – yng Nghymru, a thu hwnt.
Rydym yn gwahodd cymunedau, clybiau pêl-droed, sefydliadau celfyddydol a lleoliadau i drefnu eu rhaglenni o ddigwyddiadau, gweithdai a pherfformiadau a dod yn rhan o’r ŵyl greadigol hon sy’n dathlu Cymru a’n diwylliant.
Byddwch yn rhan o rywbeth mwy. Gorau Chwarae Cyd Chwarae.
*o leiaf!