I ddathlu Dydd Miwsig Cymru, mae gennym ni ddiwrnod llawn o gerddoriaeth Cymraeg i chi, o lansio tracs ac albyms i fideos ecsgliwsif, i ddarganfod cariad Rhys Ifans at fiwsig Cymraeg. Bydd y cyfan yn dechrau am 2pm gyda HMS Morris a byddwn yn eich tywys drwy’r dydd hyd at 10pm gyda set DJ gan Roughion. Felly, rhowch eich goleuadau disgo ymlaen ac fe welwn ni chi am 2pm ar 5 Chwefror.