Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gŵyl 6 Music | 6 Music Festival

Cerddoriaeth

Mae’r wythnos hon yn un enwedig o gyffrous i gerddoriaeth yng Nghymru gan fod BBC 6 Music Festival yn dod i’r brifddinas. Fydd unrhyw un sy’n gwrando ar yr orsaf wedi clywed digon o sôn am yr ŵyl dros yr wythnosau diwethaf, ac efallai bydd rhai ohonoch wedi bodyn ddigon lwcus i fachu tocynnau i weld artistiaid BYD ENWOG fel Pixies, Little Simz, Self Esteem, Khruangbin, Bloc Party a hyd yn oed y Manics.

Ond i’r gweddill ohonom ni oedd yn rhy hwyr, yn rhy anlwcus neu’n rhy anrhefnus i fachu tocynnau, mae yna ddigon o gyfleoedd i wylio cerddoriaeth byw o gwmpas y ddinas (ac am lot rhatach hefyd). Mae’r cyfan i wed ar fap newydd Minty ond dyma rhai o’n uchafbwyntiau ni isod.

Immersed

Mae Immersed wedi ymuno gyda 6 Music i gynnal 3 diwrnod o gerddoriaeth yn ystod yr wythnos ac erbyn i chi ddarllen y neges hon bydd eisioes wedi cychwyn gyda diwrnod o gerddoriaeth yn Tramshed, gan gynnwys perfformiadau gan Mace the Great, Minas, YASMINE & THE EUPHORIA, LEMFRECK a Mari Mathias. Gallwch ddod o hyd i’r lineup cyfan yma ond rydyn ni’n enwedig o gyffrous i fynychu llwyfan Libertino yn Cultvr Lab dydd Iau, lle bydd bandiau fel Breichiau Hir, Silent Forum, Clwb Fuzz, Sybs A MWY yn chwarae. Bachwch docynnau yma.

Clwb Ifor Bach

I fod yn onest, does dim ots os nad ydych chi wedi cael tocynnau ar gyfer digwyddiadau SWYDDOGOL yr ŵyl ar y dydd Sadwrn achos mae Clwb wedi creu lineup sy’n cynnwys rhestr ANFERTH o rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru. Mae’n ddigwyddiad am ddim ar ddydd Sadwrn 2 Ebrill fydd yn arddangos bandiau fel Ahgeebe, Los Blancos, Mellt, PIgeon Wigs, Melin Melin a Shlug.

Map mawr Minty

Nawr, dyma ddyn sy’n gwybod sut i adeiladu at gyhoeddiad. Ar ôl wythnosau o dwîts cryptig, emojis 👀👀👀, a posts emosiynol IAWN ar hyd gyfryngau cymdeithasol, mae map mawreddog Minty yma O’R DIWEDD, a i fod yn deg, mae’n profi’n ddefnyddiol yn barod.

Mae’r guide yn rhestri holl ddigwyddiadau’r wyl, gan gynnwys gigs mewn llefydd fel Porter’s, The Moon a Steam. Felly ewch draw i gael sbec a gweld beth sy’n dal eich sylw!

RHANNWCH