Categori Cynradd
Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor – Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol)
Dyma lyfr stori-a-llun sy’n llawn hwyl a dychymyg. Mae’r prif gymeriad eisiau bod yn ddeinosor … neu’n grocodeil … neu’n bengwin! Ond yn sydyn iawn mae’n sylweddoli ei fod yn unigryw. Does neb yn debyg iddo, a dyma beth sy’n ei wneud yn unigryw ac arbennig. Dyma i chi stori chwareus sy’n llawn hwyl a chreadigrwydd!
Dros y Môr a’r Mynyddoedd – Straeon Merched Dewr y Celtiaid – Awduron amrywiol, darluniau gan Elin Manon (Gwasg Carreg Gwalch)
Dyma gasgliad o bymtheg stori Geltaidd lle mae merched cryf a dewr yn serennu. Teithiwch i wledydd pell ac agos, dros y môr a’r mynyddoedd gwyllt, a dilynwch y prif gymeriadau wrth iddyn nhw ddangos eu cryfder, eu cariad a’u cyfeillgarwch. Mae pawb yn rhyfeddu at y merched – gobeithio y byddwch chi’n rhyfeddu hefyd!
Enwogion o Fri: Nye – Bywyd Angerddol Aneurin Bevan – Manon Steffan Ros a Valériane Leblond (Llyfrau Broga)
Dyma stori un o’r gwleidyddion pwysicaf yn hanes Prydain. Ynddi cawn gwrdd â Nye, bachgen swil o Dredegar. Rydym yn dilyn ei daith ysbrydoledig i fod yn wleidydd a sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS). O’r pwll glo i Dŷ’r Cyffredin, gallwch chi ddysgu mwy am ei awydd cryf i helpu eraill. Heb os, mae’n stori sy’n pwysleisio’r pwysigrwydd o ddilyn eich breuddwydion!
Categori Uwchradd
Manawydan Jones: Y Pair Dadeni, Alun Davies (Y Lolfa)
Yn y nofel hon rydym yn cwrdd â bachgen ifanc o’r enw Manawydan Jones. Mae Manawydan yn wahanol i’r plant eraill mae’n eu hadnabod yn yr ysgol – ond dydi hynny ddim yn beth drwg. Dyna beth sy’n ei wneud e’n arbennig … yn ogystal â’r ffaith ei fod yn perthyn i Manawydan fab Llŷr o’r Mabinogi. Y sylweddoliad hwn yw dechrau’r antur gyffrous.
Gwlad yr Asyn, Wyn Mason, darluniwyd gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch)
Dyma stori â phrif gymeriad unigryw iawn: asyn dof sydd â hunanddelwedd gam. Mae hi wedi arfer â byd pobl gan ei bod wedi cael ei magu gan ei mam-gu mewn tŷ, felly, er mai asyn ydyw, mae’n uniaethu’n llwyr â bodau dynol. Oherwydd hynny, mae hi’n meddwl bod asynnod eraill yn hollol wirion!
Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Mae pawb yn y pentref yn gyfarwydd â hanes Edward Powell – un o gyndeidiau Elis, y prif gymeriad. Mae Elis bob amser wedi teimlo ei fod e’n byw dan gysgod yr enw ‘Powell’. Dilynwch Elis a’i daid wrth iddyn nhw fynd ar daith i Virginia yn yr Unol Daleithiau i ddysgu mwy am fywyd Edward Powell – ond oes mwy i’r hanes?
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Caiff enillwyr y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi ddydd Iau, 1 Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin.