Rydym yn falch o anrhydeddu cyfraniad oes Menna Lloyd Williams i lenyddiaeth plant wrth gyflwyno Gwobr Mary Vaughan Jones eleni.
Cyflwynir y wobr bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am yr awdur Mary Vaughan Jones, i berson a wnaeth cyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru. Dyma rannu’r digwyddiad digidol arbennig hwn, gydachyfraniadau gan Gwerfyl Pierce Jones, Geraint Lewis, Philip Pullman, Daniel Evans, Casia Wiliam ac aelodau Adran Bro Alaw, i ddathlu cyfraniad nodedig Menna Lloyd Williams ilyfrau plant.