Ry’n ni’n falch o gyhoeddi’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc 2025.
Mae’r gwobrau, a sefydlwyd y llynedd, yn dathlu cyfraniad darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw a chreu llyfrau trawiadol a deniadol sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc.
Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg.
Dewiswyd y llyfrau ar y rhestrau byrion gan aelodau Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau.
Rhestr Fer Gymraeg
- Gwen ac Arianrhod (Gwasg Carreg Gwalch).
Darluniad y clawr: Lleucu Gwenllian
Dyluniad y clawr: Eleri Owen
Awdur: Lleucu Gwenllian
- Nos Da Blob (Y Lolfa)
Darluniad y clawr: Huw Aaron
Dyluniad y clawr: Opal Roengchai
Awdur: Huw Aaron
- Ysgol Arswyd (Y Lolfa)
Darluniad y clawr: Sian Angharad
Awdur: Catrin Angharad Jones.
Rhestr Fer Saesneg
- Colours of Home (Graffeg)
Darluniad y clawr: Miriam Latimer
Awdur: Miriam Latimer
- The Street Food Festival (Atebol)
Darluniad y clawr: Valériane Leblond
Dyluniad y clawr: Tanwen Haf, Whitefire Designs
Awdur: Gail Sequeira
- Fishfolk (Firefly Press)
Darluniad y clawr: Hannah Doyle
Awdur: Steven Quincey-Jones
Bydd y dylunydd/darlunydd o’r clawr buddugol ym mhob categori yn ennill neu rannu gwobr ariannol o £500.
Cyhoeddir yr enillwyr ar 26 Medi 2025.
Cefnogir y Gwobrau gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru o dan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm.